Sgipio'r prif lywioManylion Bysellau HygyrcheddChwilio
 
Help / Cymorth
Darllenwch y dudalen

Rhaid cael Adobe Acrobat Reader er mwyn gweld ffeiliau PDF ar y wefan hon.

Nôl Acrobat Reader
Buddsoddwr Mewn Pobl
Tim Rheoli 

Nod y Tîm Rheoli yw gosod cyfeiriad i waith y sefydliad, cynnal gorolwg ar waith y Bwrdd yn ei gyfanrwydd, a llunio blaen raglen waith i’r dyfodol yn seiliedig ar benderfyniadau’r Bwrdd.

Mae’r Tîm Rheoli’n cyfarfod hyd at 20 gwaith y flwyddyn.

Dyma rai o gyfrifoldebau’r Tîm Rheoli:

  1. Gosod cyfeiriad a chynnal gorolwg strategol i waith y Bwrdd
  2. Asesu perfformiad ac adnabod meysydd blaenoriaeth / gwelliant
  3. Cytuno ar strategaethau thematig
  4. Sicrhau bod polisïau cyffredinol a rheolaeth personél, T.G. a chyllid priodol yn eu lle a sicrhau’r gwerth gorau am arian cyhoeddus

Mae’r Prif Weithredwr yn bersonol gyfrifol am stiwardiaeth a gwariant arian cyhoeddus yn briodol, ac am weithrediadau a rheolaeth y Bwrdd o ddydd i ddydd.

 

Meirion Prys Jones, Prif Weithredwr

 

Yn enedigol o Ben-y-bont, cafodd Meirion ei addysg yn Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam, a Phrifysgol Cymru, Bangor, lle graddiodd mewn Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg. Aeth yn ei flaen i gwblhau cwrs TAR ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth, gan ennill clod uchel mewn dysgu, a’i bynciau arbennig oedd Cymraeg iaith gyntaf ac ail iaith.

Bu Meirion yn bennaeth adrannau Cymraeg yn Ysgolion Castell Alun a Glan Clwyd, cyn symud i weithio i Adran Addysg Cyngor Sir Gorllewin Morgannwg fel Uwch Ymgynghorydd y Gymraeg a Phennaeth y Gwasanaethau Cefnogi. Ers 1993, bu'n Arolygydd Ysgolion Ei Mawrhydi.

Fe’i benodwyd yn Brif Swyddog Adran Addysg a Hyfforddiant y Bwrdd yn 1994, yn Arweinydd y Tîm Cynllunio Ieithyddol yn 2001, ac yn Ddirprwy Brif Weithredwr yn 2003.

Daeth yn Brif Weithredwr y Bwrdd yn Ebrill 2004.

 

 

Cliciwch yma i ddarllen am weddill y Tîm Rheoli.

Hawlfraint © Bwrdd Yr Iaith Gymraeg | Polisi Preifatrwydd | Hygyrchedd |