Yn ddiweddar bu cynnydd sylweddol yn y defnydd o'r Gymraeg gan fusnesau a rôl y Bwrdd yw annog y duedd hon trwy gynnig cefnogaeth a chyngor i fusnesau sydd am ddatblygu ar eu defnydd o’r Gymraeg.
Mewn marchnad gynyddol fyd-eang mae busnesau’n gweld gwerth mewn cyfleu personoliaeth ac mewn uniaethu eu hunain â Chymru. Yn ogystal mae cynnig gwasanaeth dwyieithog yn arwydd o ymrwymiad i'r holl gwsmeriaid. Mae hyd yn oed y rheini sydd ddim yn siarad yr iaith yn
gwerthfawrogi gweld a chlywed y Gymraeg.
Dau brif linyn ein gwaith yw:
• cydweithio gyda, a chefnogi, cwmnïau sydd am ddatblygu eu defnydd o`r Gymraeg, a
• thargedu cwmnïau sydd ddim o reidrwydd wedi'u lleoli yng Nghymru ond sydd â phresenoldeb busnes yma.
Dros y blynyddoedd diwethaf mae amryw o arweinwyr marchnad wedi mabwysiadu dwyieithrwydd oherwydd ei fod yn gwneud synnwyr busnes da, ac rydym yn ymwybodol y bydd busnesau eraill yn ceisio efelychu’r rhain.
Ymysg y cwmnïau rydym wedi bod yn cydweithio gyda nhw mae Marks & Spencer, Boots, HSBC, NatWest, Tesco, Primark a Borders. Rydym hefyd yn gweithio gydag amrywiaeth o gwmnïau brodorol Cymreig, o gwmnïau cysylltiadau cyhoeddus a chanolfannau galw i ddarparwyr bwyd, siopau, a busnesau amaethyddol megis Wynnstay.
Rydym wedi ymrwymo i gefnogi'r defnydd o`r Gymraeg mewn busnes ac yn awyddus i gynnig cyngor ymarferol i gwmnïau syn dymuno gweithredu’n ddwyieithog.