Mae manteision economaidd yr iaith Gymraeg hefyd yn cael eu gwerthfawrogi'n gynyddol, gan gyflogwyr a gweithwyr fel ei gilydd.
Drwy Gymru gyfan mae mwy a mwy o gyflogwyr - yn y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol - yn ymateb i ofynion cwsmeriaid, drwy gydnabod manteision defnyddio'r ddwy iaith, manteision sy'n gallu cynnwys:
- gwella ansawdd y gwasanaeth i gwsmeriaid
- denu cwsmeriaid newydd
- cynyddu ffyddlondeb cwsmeriaid
- ennyn ewyllys da am gost cymharol fach
- ennill mantais gystadleuol
- atgyfnerthu ymdrechion cysylltiadau cyhoeddus

Gyda sefydliadau ymhob sector yn cynnig mwy a mwy o wasanaethau dwyieithog, mae'n amlwg fod angen pobl â sgiliau dwyieithog i wneud hyn. Yn y gweithle mae'r gallu i siarad neu ysgrifennu yn Gymraeg ac yn Saesneg yn sgiliau gwerthfawr, yn union fel sgiliau cyfrifiadurol neu ariannol.
Bydd y nifer o bobl â sgiliau dwyieithog a fydd eu hangen yn amrywio rhwng sefydliadau, yn dibynnu ar eu lleoliad, pa fath o wasanaethau maent yn eu darparu a sut maent yn delio â'u cwsmeriaid.
Y realiti yw y bydd y sefyllfa hon yn parhau i ddatblygu mewn ymateb i ddymuniadau a disgwyliadau cwsmeriaid. Bydd swyddi ar gael ar bob lefel lle mae'r gallu i weithio'n ddwyieithog yn ddymunol, os nad yn angenrheidiol.
Dyma un o'r prif ffactorau sy'n parhau i yrru'r galw am addysg a hyfforddiant galwedigaethol cyfrwng Cymraeg, gyda phobl ifanc a'u rhieni yn dod i ddeall gwerth economaidd yr iaith Gymraeg. Mae'r sector preifat hefyd yn un o flaenoriaethau strategol y Bwrdd a cheir hanes ein hymwneud â'r sector hwnnw ar y wefan hon.