Iaith Geltaidd yw'r Gymraeg, sy'n perthyn yn agos i'r Gernyweg a'r Llydaweg. Mae'r Gymraeg a siaradir heddiw wedi datblygu o’r chweched ganrif.
Hyd at ganol yr 19eg ganrif, roedd rhan fwyaf o boblogaeth Cymru’n medru siarad Cymraeg – dros 80%. Dros y canrifoedd diwethaf mae sawl ffactor wedi effeithio ar ddefnydd pobl o’r Gymraeg – dyma rhai o’r ffactorau mwyaf blaenllaw:
• Deddfau Uno 1536 a 1542: y deddfau yma wnaeth uno Cymru a Lloegr, a gwneud Saesneg yn iaith cyfraith a gweinyddiaeth Cymru. Er na chafodd yr iaith ei gwahardd gan y ddeddf, arweiniodd hyn at ddirywiad y Gymraeg am ganrifoedd.
• Cyfieithu’r Beibl 1588 gan yr Esgob William Morgan: Bu hyn yn hwb mawr i’r iaith oherwydd sicrhaodd mai’r Gymraeg oedd iaith crefydd ac addoli, a chadwodd y Gymraeg yn fyw o fewn cymunedau.
• Chwyldro Diwydiannol 18-19 Ganrif: Dyma achosodd y gwymp fwyaf mewn siaradwyr Cymraeg oherwydd y mewnlifiad anferth o bobl i’r ardaloedd diwydiannol. Cwympodd nifer y siaradwyr Cymraeg i 50% o’r boblogaeth.
Parhaodd y gostyngiad hyn drwy’r Ugeinfed Ganrif am sawl rheswm:
• patrymau ymfudo o ardaloedd gwledig i ardaloedd trefol i chwilio am waith
• mewnfudiad siaradwyr Saesneg i ardaloedd gwledig
• mwy a mwy o gyfryngau newyddion ac adloniant, drwy gyfrwng y Saesneg
• datblygiad cymdeithas sy'n gyffredinol yn fwy seciwlar, yn arwain at leihad dylanwad y capeli - canolbwynt llawer o weithgareddau Cymraeg traddodiadol.
Presennol:
Mae Cyfrifiad 2001 yn dangos fod 20.8% o boblogaeth Cymru'n dweud eu bod yn gallu siarad Cymraeg. Gellir gweld dadansoddiadau, mapiau a phapurau briffio am gyfrifiad 2001 ar lyfrgell gyhoeddiadau'r wefan hon. Bydd y Cyfrifiad nesaf yn 2011 ac mae’n debygol y bydd y canlyniadau’n cael eu cyhoeddi yn ystod 2013.
Mae mwy o wybodaeth am ddatblygiad yr iaith ar gael ar wefan Hanes y Gymraeg y BBC.