Sgipio'r prif lywioManylion Bysellau HygyrcheddChwilio
 
Yn adran hon:
Help / Cymorth

Rhaid cael Adobe Acrobat Reader er mwyn gweld ffeiliau PDF ar y wefan hon.

Nôl Acrobat Reader
Buddsoddwr Mewn Pobl
Ymchwiliad Dan Adran 17 Deddf Yr Iaith Gymraeg 1993 ("Y Ddeddf") 

28.11.2005 

Adroddiad Bwrdd yr Iaith Gymraeg i Gyngor Sir Caerfyrddin

Mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg wedi cyhoeddi heddiw (Sul) ganfyddiadau ei ymchwiliad i benderfyniad Cyngor Sir Gaerfyrddin i hysbysebu swydd Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant heb nodi unrhyw ofynion mewn perthynas â sgiliau cyfathrebu dwyieithog yn yr hysbyseb.

Mae'r adroddiad llawn ynghyd ag argymhellion wedi eu cyflwyno i Gyngor Sir Caerfyrddin yr wythnos diwethaf o dan adran 19(3) Deddf Yr Iaith Gymraeg a chyflwynwyd copi o'r adroddiad yn ffurfiol i sylw Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Cynhaliwyd yr Ymchwiliad o dan adran 17 Deddf Yr Iaith Gymraeg ac fe geir copi llawn o'r adroddiad a'r atodiadau ar ochr dde y dudalen hon.


« Nôl

Hawlfraint © Bwrdd Yr Iaith Gymraeg | Polisi Preifatrwydd | Hygyrchedd