Sgipio'r prif lywioManylion Bysellau HygyrcheddChwilio
 
Yn adran hon:
Help / Cymorth

Rhaid cael Adobe Acrobat Reader er mwyn gweld ffeiliau PDF ar y wefan hon.

Nôl Acrobat Reader
Buddsoddwr Mewn Pobl
Y Gymraeg yn arf marchnata i fusnesau 

26.04.2009 

Hysbysebu dwyieithog yw’r nod, yn ôl dros dri chwarter poblogaeth Cymru.

Mewn arolwg a gomisiynwyd gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg, gofynnwyd i 1,011 o bobl fynegi eu barn am bwysigrwydd y Gymraeg. Mewn ymateb i’r gosodiad, “Mae deunydd marchnata a hysbysebion dwyieithog yn bwysig”, dywedodd 76% o’r bobl a holwyd eu bod yn cytuno. Dim ond 11% o’r bobl hyn oedd yn galw eu hunain yn siaradwyr Cymraeg rhugl.

Roedd canlyniadau eraill yr arolwg yn dangos bod 82% o’r farn fod y Gymraeg yn rhywbeth i ymfalchïo ynddi, a 81% yn credu bod hyfforddi staff i ddysgu Cymraeg yn bwysig.

Wrth gyhoeddi canlyniadau’r arolwg heddiw, dywedodd Prif Weithredwr y Bwrdd, Meirion Prys Jones:

“Dyma brawf bod yr iaith Gymraeg yn destun balchder i bobl Cymru ac yn rhywbeth o werth mawr, boed nhw’n siarad yr iaith ai peidio. Un o’r canlyniadau mwyaf arwyddocaol, efallai, yw hwnnw sy’n cyfeirio at werth marchnata dwyieithog. Bob blwyddyn, rydym yn gweld mwy a mwy o gwmnïau yn troi at gynyddu eu defnydd o’r Gymraeg. Mae busnesau yn gwneud hyn ar sail adnabyddiaeth o’u cwsmeriaid, ac ymateb i’r galw ymysg y cyhoedd. Mae’r rhan fwyaf o’r busnesau mwyaf llewyrchus yn darparu ystod eang o wasanaethau Cymraeg, a bydd pob math o fusnesau yn dilyn eu harweiniad.

“O fewn y misoedd diwethaf rydym wedi gweld camau breision yn cael eu cymryd i roi lle i’r Gymraeg yn natblygiadau technolegol diweddaraf busnesau. Cymerwch chi diliau hunanwasanaeth Tesco a Marks and Spencer er enghraifft, a’r tudalennau Cymraeg ar wefannau HSBC a Nat West. Mae busnesau fel BT, Barclays, Borders a First Great Western wedi llunio polisïau iaith ysgrifenedig. Dim ond llond llaw o enghreifftiau yw’r rhain; y gwir amdani yw bod y Gymraeg bellach yn gynyddol ennill ei lle ym myd busnes; ac mae pob math o fusnesau yn dilyn arweiniad y cwmnïau hyn.

“Mae yna bwyslais mawr ar y lleol a chynnyrch lleol y dyddiau hyn, ac mae’r Gymraeg yn arf marchnata gwych i gyfleu’r neges i gwsmeriaid bod busnes yn ymrwymedig i’r gymuned leol. Mae’r iaith yn rhoi rhywbeth ychwanegol a dilysrwydd lleol i fusnes neu gynnyrch.”

 


« Nôl

Hawlfraint © Bwrdd Yr Iaith Gymraeg | Polisi Preifatrwydd | Hygyrchedd