Mae angen cynnwys y Gymraeg ar gardiau adnabod, dyna her aelodau Bwrdd yr Iaith Gymraeg i Brif Weinidog Cymru a’r Ysgrifennydd Gwladol heddiw. Nid oes bwriad i ddarparu cardiau adnabod yn Gymraeg, a dadl y Swyddfa Gartref yw na ddylid cynnwys y Gymraeg gan nad yw’n iaith swyddogol yn yr UE.
Bydd y cardiau adnabod cyntaf yn cael eu dosbarthu i breswylwyr o dramor sy’n byw yn y DG ym mis Tachwedd eleni, a byddant yn cael eu dosbarthu i ddinasyddion eraill y DG mewn gwahanol gamau, yn seiliedig ar statws eu dinasyddiaeth, dros y 3 blynedd nesaf.
Yn dilyn cyfarfod agored Bwrdd yr Iaith Gymraeg heddiw yn Llandysul, dywedodd y Cadeirydd Meri Huws
“Rydym yn hynod anfodlon â’r datganiad hwn gan y Swyddfa Gartref. Yn ein barn ni, nid yw’r rheswm a roddwyd yn ddigonol, gan fod y Gymraeg eisoes yn cael ei defnyddio ar ddogfennau pasport o dan yr un rheolau Ewropeaidd.
Rydym am weld gwarant fod pob cerdyn adnabod yng Nghymru yn gwbl ddwyieithog, yn yr un modd ag sy’n digwydd yn achos trwyddedau gyrru”.