Sgipio'r prif lywioManylion Bysellau HygyrcheddChwilio
 
Yn adran hon:

Rhaid cael Adobe Acrobat Reader er mwyn gweld ffeiliau PDF ar y wefan hon.

Nôl Acrobat Reader
Buddsoddwr Mewn Pobl
Y Ffordd Ymlaen i Gymraeg a Busnes 

25.11.2008 

Heddiw lansiodd Bwrdd yr Iaith Gymraeg wasanaeth newydd i fusnesau yng Nghymru – templed i lunio polisïau iaith. Bydd y datblygiad hwn yn adnodd gwerthfawr i fusnesau ac yn cryfhau perthynas y Bwrdd â’r sector fusnes. Bydd yn arwain at gynnydd a chysondeb mewn darpariaeth Gymraeg yn y sector preifat wrth i fusnesau wneud ymrwymiadau pendant a ffurfiol ynghylch eu gwasanaethau dwyieithog.

 

Ymunodd cynrychiolwyr o nifer o fusnesau yng Nghymru â Chadeirydd y Bwrdd a’r Gweinidog Treftadaeth ym Mimosa, Bae Caerdydd, i lansio’r templed.

 

Dywedodd Cadeirydd y Bwrdd, Meri Huws:

 

Mae’r ddarpariaeth Gymraeg yn y sector preifat wedi cynyddu’n aruthrol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Bellach, mae busnesau yn barod i gymryd y cam nesaf, gan symud ymlaen o ddefnydd gweledol o’r Gymraeg yn unig, ac yn cydweithio â’r Bwrdd i ffurfioli’r ddarpariaeth drwy gyfrwng polisïau iaith.

 

“Mae’r templed yn hwyluso'r broses o lunio polisïau iaith ac yn helpu busnesau i sicrhau bod y Gymraeg yn cael ystyriaeth ym mhob maes o wasanaeth cwsmer. Mae dros 50 o fusnesau eisoes yn defnyddio’r templed er mwyn llunio eu polisïau iaith, a phan fydd y templed ar gael i’w lwytho yn rhad ac am ddim oddi ar wefan y Bwrdd yn y flwyddyn newydd, disgwylir y bydd llawer iawn mwy o fusnesau yn dewis llunio polisïau iaith.

 

Fel rhan o’r lansiad, cymerodd y Bwrdd y cyfle i sôn hefyd am gynllun Cefnogi’r Gymraeg, sef symbol gweledol sy’n helpu busnesau i arddangos eu bod yn parchu ac yn cefnogi’r iaith. Mae pob busnes sy’n defnyddio Cefnogi’r Gymraeg yn ymrwymo i lunio polisi iaith. Ers i swyddogion y Bwrdd ddechrau cysylltu â busnesau yn eu gwahodd i ymuno, mae dros 100 o fusnesau eisoes wedi mabwysiadu’r cynllun.

 

Ychwanegodd y Gweinidog Treftadaeth Alun Ffred Jones:

 

“Mae'n dda gweld mwy a mwy o gwmnïau'n cynnig gwasanaethu Cymraeg ac mae'r cynllun newydd yma’n gam pwysig ymlaen. Mae ymchwil yn dangos fod cwsmeriaid yn gwerthfawrogi cwmnïau sy'n ymrwymedig i'r iaith, ac mae Cefnogi'r Gymraeg yn ffordd dda o wobrwyo'r cwmnïau yma.”


« Nôl

Hawlfraint © Bwrdd Yr Iaith Gymraeg | Polisi Preifatrwydd | Hygyrchedd

Datblygwyd gan Draig Technology Cyf. gyda Microsoft Office SharePoint Server 2007.