Sgipio'r prif lywioManylion Bysellau HygyrcheddChwilio
 
Yn adran hon:
Help / Cymorth

Rhaid cael Adobe Acrobat Reader er mwyn gweld ffeiliau PDF ar y wefan hon.

Nôl Acrobat Reader
Buddsoddwr Mewn Pobl
Windows 7 ar gael yn Gymraeg heddiw 

11.02.2010 

Mae pecyn rhyngwyneb Cymraeg bellach ar gael yn rhad ac am ddim i bob fersiwn o Microsoft Windows 7. Fe'i lansiwyd o ganlyniad i bartneriaeth rhwng Microsoft a Bwrdd yr Iaith Gymraeg. Ariannwyd y pecyn gan Microsoft. Mae’n bleser gan y Bwrdd gyhoeddi bod Microsoft wedi ychwanegu un eto byth o’u cynnyrch i’r rhestr gynyddol o feddalwedd sydd ar gael yn Gymraeg. Byddem yn annog pawb sy'n defnyddio Windows 7 i ddefnyddio'r ddarpariaeth Gymraeg newydd.

Microsoft Windows 7 yw system gweithredu ddiweddaraf Microsoft ac mae’n cynnwys llawer o nodweddion newydd.

Wrth gyhoeddi’r Pecyn Rhyngwyneb Cymraeg heddiw, dywedodd Steve Beswick, Cyfarwyddwr Addysg Microsoft Cyf:

“Rydym yn falch i gynnig cyfle i siaradwyr Cymraeg ledled y byd ddefnyddio Windows 7 yn Gymraeg.  Ers 2004, rydym wedi ymrwymo i gynyddu’r dewisiadau iaith sydd ar gael i’n cwsmeriaid, a mawr obeithiwn y bydd siaradwyr Cymraeg yn manteisio ar y datblygiad diweddaraf hwn.”

Fe groesawyd y datblygiad newydd gan Alun Fred Jones AC, Gweinidog Llywodraeth Cynulliad Cymru dros Dreftadaeth:

“Byddwn yn annog pob siaradwr Cymraeg sy’n defnyddio technoleg i ddefnyddio’r dechnoleg honno yn Gymraeg.  Mae technoleg yn esblygu mor gyflym, ac rwy’n falch bod Microsoft wedi sicrhau bod y Pecyn Cymraeg ar gael mor fuan – ac ar ei draul ei hun.  Dyma enghraifft arall eto fyth o fusnes sy’n gweld gwerth o ddefnyddio’r Gymraeg.”

Dywedodd Meirion Prys Jones, Prif Weithredwr Bwrdd yr Iaith Gymraeg:

“Rydym wrth ein bodd o gael parhau â’n perthynas hir a llwyddiannus â Microsoft, sydd eisoes wedi creu cyfle i siaradwyr Cymraeg ehangu eu defnydd o’r Gymraeg ym myd technoleg gwybodaeth, boed yn y cartref, yn y gweithle neu yn yr ysgol.  Mae’n dda gennym fod Microsoft wedi dewis adnewyddu eu hymrwymiad i’r Gymraeg a sichrau bod fersiwn diweddaraf eu meddalwedd ar gael i’w ddefnyddio yn Gymraeg.”

- Diwedd -

Nodiadau i olygyddion

  • Fel rhan o gyhoeddiad heddiw, cynhyrchwyd Pecyn Rhyngwyneb Cymraeg i Microsoft Windows 7.
  • Bydd y pecyn rhyngwyneb i Windows 7 yn cyfieithu cyfran helaeth o ryngwyneb defnyddiwr y rhaglenni canlynol: Windows 7.
  • Daw’r Pecyn Rhyngwyneb hwn yn sgil gwaith blaenorol a wnaed yn rhan o’r bartneriaeth rhwng Bwrdd yr Iaith Gymraeg a Microsoft, a gynhyrchodd Becynnau Rhyngwyneb Cymraeg i Microsoft Office 2003 & 2007 a Windows XP a Windows Vista a Microsoft SharePoint Services.
  • Mae’r holl waith a wneir yn rhan o’r prosiect hwn wedi ei ariannu’n llwyr gan Microsoft. Mae’r gwaith cyfieithu wedi ei wneud gan gwmni cyfieithu Cymen o Gaernarfon. Bwrdd yr Iaith Gymraeg oedd yn gyfrifol am reoli’r prosiect a sicrhau safon.
  • Gweler www.byig-wlb.org.uk/technoleg am ragor o wybodaeth am waith y Bwrdd ym myd technoleg iaith ac am sut y gallwch ddefnyddio cyfrifiaduron yn Gymraeg heddiw.
  • Am ragor o wybodaeth am Microsoft Windows 7, gweler: http://www.microsoft.com/windows/windows-7/. 

Ynglŷn â Bwrdd yr Iaith Gymraeg

Mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn gorff statudol a noddir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Fe’i sefydlwyd yn Rhagfyr 1993, o dan delerau Deddf yr Iaith Gymraeg. Ei brif swyddogaeth yw hyrwyddo a hwyluso defnyddio’r iaith Gymraeg.

Penodir ei aelodau gan Weinidog Treftadaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru, ac mae ganddo staff o dros saith deg. O dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998, daeth y Bwrdd yn atebol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, ar ôl bod yn atebol i a chael ei ariannu gan y Swyddfa Gymreig yn y gorffennol.

Yn syml, prif nod y Bwrdd yw ei gwneud hi’n haws i bawb ddefnyddio Cymraeg ymhob agwedd ar fywyd, i fagu hyder pobl yn eu gallu i ddefnyddio’r iaith, i annog mwy o bobl i siarad, darllen ac ysgrifennu Cymraeg mewn sefyllfaoedd newydd, ac i drosglwyddo’r iaith i’w plant.

Mae’r Bwrdd yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau’r sector cyhoeddus, busnesau preifat a sefydliadau gwirfoddol gan gynnig cyngor ac adnoddau i gynorthwyo darparwyr gwasanaethau i gynnig dewis iaith naturiol. Mae rhagor o wybodaeth am ein blaenoriaethau strategol, a’n holl waith, boed yn dechnoleg neu’n waith arall, ar gael ar ein gwefan, www.byig-wlb.org.uk.

« Nôl

Hawlfraint © Bwrdd Yr Iaith Gymraeg | Polisi Preifatrwydd | Hygyrchedd