Mae prosiect trosglwyddiad iaith, Twf, wedi cyrraedd y rhestr fer yng ngwobrau ‘Marketing Excellence’ y Sefydliad Marchnata Siartredig (CIM).
Gwobrau’r ‘Marketing Excellence’ yw prif raglen wobrwyo y proffesiwn marchnata ym Mhrydain, a bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni arbennig yn Llundain ar 17 Chwefror 2010.
Prosiect sy’n cael ei redeg gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg yw Twf, i annog darpar rieni a rhieni ifanc i drosglwyddo’r iaith i’w plant yn y cartref.
Mae swyddogion maes Twf yn gweithio’n uniongyrchol â darpar rieni a rhieni ifanc yn y gymuned, a thrwy gyfrwng bydwragedd ac ymwelwyr iechyd mewn clinigau er mwyn lledaenu’r neges am werth Cymraeg o’r crud.
I atgoffa rhieni o’r negeseuon yn barhaus, mae Twf yn darparu ystod eang o adnoddau defnyddiol, o gardiau sgan a ffolderi mamolaeth i CD hwiangerddi Cymraeg.
Dywedodd Cadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg, Meri Huws,
“Mae’n fraint enfawr fod y gwaith marchnata’n cael ei gydnabod gan y CIM. Roedd cyrraedd y rownd derfynol ei hun yn gryn gamp, ac rydym yn croesi’n bysedd nawr am ddod nôl i Gymru gyda’r wobr tua chanol y mis.
“Yr her fawr i ddyfodol a hyfywedd y Gymraeg yw sicrhau ei bod hi’n cael ei phasio ymlaen o un genhedlaeth i’r nesaf yn y cartref. Mae gan bob aelod o’r teulu ran i’w chwarae wrth drosglwyddo’r iaith i blentyn; yn famau, a thadau, yn fam-gus a thad-cus, a’n nod ni trwy’n gwaith marchnata yw cynnig y gefnogaeth orau posibl i’r teulu wrth iddynt fagu plant mewn awyrgylch ddwyieithog.
Dywedodd David Thorp, Cyfarwyddwr Ymchwil a Datblygiad Proffesiynol y CIM:
“Daeth dros 300 o geisiadau i law eleni, ac roedd y safon yn eithriadol o uchel. Wrth lunio rhestr fer roeddem yn chwilio am ymgyrchoedd marchnata gwreiddiol a chyffrous, a oedd yn dangos ôl cynllunio a monitro manwl. Nid tasg hawdd oedd dod i benderfyniad am bwy oedd i fod yn y rhestr fer, ond ar ôl cryn grafu pen daeth ein beirniaid o hyd i dri ymgeisydd hynod haeddiannol.
“Mae’r gwobrau “Marketing Excellence” wedi eu creu’n arbennig er mwyn tynnu sylw at rôl sylfaenol marchnata ym myd busnes ac yn y sector cyhoeddus, ac i ddathlu’r cyraeddiadau marchnata gorau ar draws y sectorau. Mae’r gwobrau’n cydnabod gwaith marchnata rhagorol sefydliadau mawr a bach ar hyd a lled Prydain.”