Mae’r Gweinidog dros Dreftadaeth Alun Ffred Jones heddiw wedi cyhoeddi cyllid o dros £2.3 miliwn ar gyfer tri sefydliad sy’n chwarae rôl bwysig yn hybu defnydd o’r iaith Gymraeg ar gyfer y flwyddyn ariannol 2010-11.
Bydd y tri sefydliad – Mudiad Ysgolion Meithrin, Urdd Gobaith Cymru a’r Eisteddfod Genedlaethol – i gyd yn derbyn cynnydd yn eu cyllid gan Lywodraeth Cynulliad Cymru drwy Fwrdd yr Iaith Gymraeg. Bydd Mudiad Ysgolion Meithrin yn derbyn £1,156,464, Urdd Gobaith Cymru yn derbyn £687,184 a’r Eisteddfod Genedlaethol yn derbyn £493,000.
Dywedodd y Gweinidog Treftadaeth, Alun Ffred Jones:
“Mae’r Eisteddfod Genedlaethol, Urdd Gobaith Cymru a Mudiad Ysgolion Meithrin yn sefydliadau sydd yn chwarae rôl bwysig yn hybu’r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru.
“Bydd y cyllid hwn yn golygu fod y tri sefydliad yn gallu parhau i ddarparu cyfleoedd i blant, pobl ifanc ac oedolion i fwynhau gweithgareddau drwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd Mudiad Ysgolion Meithrin yn medru parhau i gyflogi nifer o swyddogion ar lefel genedlaethol, rhanbarthol a sirol. Bydd y cyllid hefyd yn galluogi’r Mudiad i ddyrannu grantiau i'r cylchoedd, ac yn cefnogi elfennau o'r gwaith hyfforddiant, marchnata ac adnoddau iaith. Bydd Urdd Gobaith Cymru yn medru bwrw ymlaen â chynllun i gyflogi swyddogion datblygu ar gyfer disgyblion uwchradd a bydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn medru gwneud gwaith i ddenu cynulleidfa newydd i Eisteddfod 2010 ym Mlaenau Gwent.”
Dywedodd Cadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg, Meri Huws:
“Nod y Bwrdd yw sicrhau fod yna nifer cynyddol o bobl yng Nghymru yn siarad ac yn defnyddio’r iaith yn eu bywydau bob dydd. Dyma dri sefydliad sy’n creu bwrlwm o Gymreictod a chyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yn naturiol yn ein cymunedau, a braint yw eu cefnogi gyda’r gwaith hwn.”