Yr wythnos hon bydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn cynnal cyfarfod agored yn Llandysul. Estynnir gwahoddiad i bobl leol fynychu’r cyfarfod, i wrando ar y trafodaethau, gofyn cwestiynau i’r aelodau a rhannu gwybodaeth am sefyllfa’r iaith yn yr ardal.
Cynhelir y cyfarfod Dydd Gwener 26 Medi yng Ngwesty’r Porth, Llandysul, o 10.30 y.b ymlaen.
Bydd swyddogion o Gyngor Sir Ceredigion yn rhoi cyflwyniad ar gynlluniau’r cyngor i ddatblygu’r Gymraeg mewn addysg ac yn y gymuned.
Ymysg y pynciau eraill a fydd yn cael eu trafod, bydd y cynllun Twf, sef prosiect sy’n rhoi cyngor a chefnogaeth i fagu plant yn Gymraeg neu’n ddwyieithog, a gwaith y tasglu gofal cychwynnol a iechyd sy’n gweithio tuag at gynyddu’r gwasanaethau Cymraeg yn y sector.
Bydd adroddiad yn cael ei roi hefyd am y Rhwydwaith Ewropeaidd i Hyrwyddo Amlieithrwydd, a lansiwyd yn gynharach eleni, ac sy’n cael ei weinyddu gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg.
Dywedodd Cadeirydd y Bwrdd, Meri Huws:
“Bydd yn bleser croesawu’r cynrychiolwyr o Gyngor Ceredigion atom i drafod y ddarpariaeth Gymraeg ym meysydd addysg a darpariaeth gymunedol a chlywed sut maent yn bwriadu mynd ati i ddatblygu’r iaith ymhellach ar draws y sir. Mae croeso cynnes iawn i bobl yr ardal ddod atom i ddysgu mwy am waith y Bwrdd a rhannu eu syniadau a’u profiadau â ni.
“Dydd Gwener yw Diwrnod Ieithoedd Ewrop, ac mae’n addas iawn ein bod yn cynnal y cyfarfod ar y dyddiad hwn. Mae yna dros 40 miliwn o siaradwyr ieithoedd lleiafrifol yn yr Undeb Ewropeaidd, ac mae’n bwysig bod y gwledydd yn dod at ei gilydd i rannu arferion da ar sut i hyrwyddo’r ieithoedd hyn. Rydw i’n edych ymlaen at glywed am waith y Rhwydwaith yn hyn o beth dros y misoedd diwethaf ers iddi gael ei lansio.”