Sgipio'r prif lywioManylion Bysellau HygyrcheddChwilio
 
Yn adran hon:
Help / Cymorth

Rhaid cael Adobe Acrobat Reader er mwyn gweld ffeiliau PDF ar y wefan hon.

Nôl Acrobat Reader
Buddsoddwr Mewn Pobl
COFiwch eich cyfieithiadau Cymraeg 

08.12.2009 

Mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg wrthi'n rhannu cannoedd o filoedd o eiriau o gyfieithiadau â chyfieithwyr ac ieithyddion proffesiynol. Mae’r cyfieithiadau bellach ar gael yn rhad ac am ddim ar ein gwefan i’w hailddefnyddio er budd y Gymraeg (gweler ochr dde'r sgrin hon).

 

Mae’r geiriau wedi eu cynnwys mewn ‘cofion cyfieithu’, sef stôr o eiriau a brawddegau sydd eisoes wedi’u cyfieithu, ynghyd â’r fersiwn Cymraeg neu Saesneg gwreiddiol.

Gall rhaglenni cof cyfieithu chwilio yn y cof a chynnig cyfieithiadau o ddarnau o destun sy’n cyfateb yn rhannol neu’n gyfan gwbl i destun y bydd cyfieithydd yn mynd ati i’w gyfieithu. O’r herwydd, gall y rhaglenni hyn gyflymu gwaith cyfieithu a gwella cysondeb y cyfieithiadau a wneir.

Prif nodwedd y dull hwn o fynd i’r afael â chyfieithu, wrth reswm, yw bod ansawdd y cyfieithiadau a ddefnyddir yn dibynnu ar ansawdd a chysondeb yr holl gyfieithiadau hynny sy'n cael eu bwydo i mewn iddynt.

Er cymaint y gall technoleg ei gyfrannu at bob agwedd ar fywyd, pobl sy’n bwysig gan mai nhw sy’n defnyddio’r dechnoleg. Nod y cofion hyn yw cynorthwyo cyfieithwyr proffesiynol i hybu statws y Gymraeg.

Mae’r Bwrdd wedi penderfynu rhyddhau ei gofion er mwyn cynnig cyfleoedd i gyfieithwyr gynyddu faint o gyfieithu y gallant ei wneud, er mwyn osgoi ail-gyfieithu, er mwyn rhannu gwaith rhwng cyfieithwyr ac er mwyn cynyddu cyflymdra’r gwaith cyfieithu.

Beth sy’n cael ei ryddhau?

·      Cof cyfieithu Adnoddau Dynol

·      Cof cyfieithu o wefan y Bwrdd a’i holl gynnwys

·      Cof cyfieithu o fwydlenni dwyieithog

Ein bwriad yw cyhoeddi rhagor o gofion cyfieithu ar ein gwefan maes o law.

Meddai Meirion Prys Jones, Prif Weithredwr y Bwrdd:

"Mae cyhoeddi’r cofion hyn yn gam arall ymlaen yn ein gweithgarwch i hybu statws y Gymraeg drwy ddefnyddio technoleg gwybodaeth. Mae gan y proffesiwn cyfieithu gyfraniad pwysig i’w wneud i hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg yng Nghymru ac o’r herwydd mae’r Bwrdd yn awyddus i fachu ar bob cyfle posibl i gefnogi gweithgareddau’r proffesiwn. Mae’r Bwrdd yn awyddus i sefydliadau eraill wneud yr un peth, a rhannu o’u cofion hwythau er mwyn cynyddu faint o Gymraeg sydd i’w gweld. Byddem yn hapus i ystyried eu lletya ar ein gwefan.

"Er mai Bwrdd yr Iaith Gymraeg sydd yn berchen ar hawlfraint y cofion ac yn ei rheoli, rydym yn bendant o’r farn bod yr iaith Gymraeg yn eiddo i bawb. Felly, gallwch lwytho’r cofion i lawr a'u defnyddio (yn gyfreithlon) fel y mynnoch."

Nodiadau

1. Mae Cofion Cyfieithu yn agwedd ar Gyfieithu â Chymorth Cyfrifiadur [CAT]. Dyma’r term ehangaf a ddefnyddir i ddisgrifio rhaglenni technoleg gyfrifiadurol sy’n awtomeiddio neu’n cynorthwyo’r dasg o gyfieithu o un iaith i’r llall. Maent yn hynod o effeithiol o ran gwella cynhyrchiant cyfieithu, yn enwedig o ran hwyluso cyfieithu testunau gwreiddiol ailadroddus yn gyflym iawn. Un o brif rinweddau technolegau o’r fath yw y gall cyfieithwyr rannu gwaith â chyfieithwyr eraill, waeth beth fo’u lleoliad daearyddol, drwy gronfeydd data canolog o gofion cyfieithu a weinir i gyfrifiaduron unigol drwy rwydweithiau corfforaethol neu hyd yn oed drwy’r rhyngrwyd. Mae hyn yn golygu y gellir dileu ailadroddiadau 100% o ddarnau testun gwreiddiol, gan arwain at fwy o gysondeb wrth gyfieithu.

2. Ar gyfer pwy mae’r cofion hyn? Mae’r cofion i’w defnyddio, yn bennaf, gan gyfieithwyr proffesiynol sy’n defnyddio meddalwedd cof cyfieithu o bob math.

3. Ble bydd y cofion ar gael? Ar wefan y Bwrdd (gweler ochr dde y sgrin hon), trwy TAUS (Translation Automation Users’ Society) ac fel rhan o’r Google Translator Toolkit.

4. Mae’r holl ddata ar ffurf XML agored o’r enw TMX (Translation Memory Exchange). Yn hyn o beth, mae’n cynnwys elfennau sy’n darparu gwybodaeth am ‘segmentau’ cyfieithu, a all fod yn ymadrodd, yn frawddeg, neu’n baragraff. Gall gynnwys meta data pellach hefyd, megis fformatio.

5. Mae sawl math o feddalwedd cof cyfieithu ar gael ac fe gewch ragor o wybodaeth am rai ohonynt ar wefan y Bwrdd ei hun. Gan fod y data ar gael ar ffurf safonol TMX gellir ei fewngludo’n hawdd i feddalwedd cof cyfieithu o fathau gwahanol gan ddilyn cyfarwyddiadau defnyddio’r feddalwedd hwnnw.

6. Wrth ryddhau’r cofion hyn, mae’r Bwrdd yn dilyn enghraifft sawl ardal arall, erenghraifft, Gwlad y Basg (gweler, er enghraifft, y gwefannau canlynol:

Diputación Foral de Bizkaia (http://www.bizkaia.net/home2/Temas/DetalleTema.asp?Tem_Codigo=2507&Idioma=CA)

Instituto Vasco de Administración Pública (http://www.ivap.euskadi.net/r61-3039/es/contenidos/informacion/mem_traduccion/eu_3817/izoko_memoria_e.html)

7. Mae rhyddhau’r cofion hyn yn un o bwyntiau gweithredu Technoleg Gwybodaeth a’r Gymraeg: Dogfen Strategaeth a gyhoeddwyd yn 2006.

8. Er mai Bwrdd yr Iaith Gymraeg sydd yn berchen ar ac yn rheoli yr hawlfraint, hawl cronfa ddata a phob hawl arall yn y cof cyfieithu hwn  mae’r iaith Gymraeg yn eiddo i bawb. Felly, gallwch lwytho’r deunydd i lawr a'i ddefnyddio (yn gyfreithlon) fel ag y mynnoch. Ond, er ein bod wedi cymryd camau i werthuso’r deunydd, nid ydym yn rhoi gwarant am gywirdeb, trylwyredd nac addasrwydd unrhyw ddeunydd yn y cof cyfieithu hwn. Hynny yw, chi yn unig sydd yn gyfrifol am sut yr ydych yn defnyddio ein cofion cyfieithu ac ni all y Bwrdd dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am hynny."


« Nôl

Hawlfraint © Bwrdd Yr Iaith Gymraeg | Polisi Preifatrwydd | Hygyrchedd