Bydd cenedlaethau’r dyfodol yn diolch i Gymry heddiw am gynnal ac adfywio’r iaith Gymraeg, yn ôl 69% o’r boblogaeth.
Dyna un o ganlyniadau arolwg a gomisiynwyd gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg yn ddiweddar. O’r 1,011 o bobl a holwyd, dim ond 11% ohonynt oedd yn galw eu hunain yn siaradwyr Cymraeg rhugl.
Roedd canlyniadau eraill yr arolwg yn dangos bod 65% o’r farn y dylai rhieni siarad Cymraeg â’u plant, hyd yn oed os mai dim ond un rhiant sy’n medru’r Gymraeg, a bod 54% yn credu bod gwarchod y Gymraeg cyn bwysiced â gwarchod yr amgylchedd.
Wrth gyhoeddi’r canlyniadau heddiw, dywedodd Cadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg, Meri Huws:
“Mae’r ffigurau hyn yn brawf bod y Gymraeg yn cael ei gweld fel iaith dyfodol Cymru. Maent yn dangos bod rhieni am weld eu plant yn cael y cyfle i ddysgu’r iaith a mwynhau’r diwylliant a’r cyfleoedd di-ri sy’n dod yn sgil bod yn ddwyieithog. Rydym ar drothwy Eisteddfod yr Urdd, wrth gwrs, a’r wythnos nesaf byddwn yn gweld plant a phobl ifanc o bob cwr o Gymru, o bob math o wahanol gefndiroedd, yn dod at ei gilydd i ddathlu’r iaith a’r diwylliant Cymraeg.
“Yr her sy’n ein hwynebu ni nawr yw defnyddio’r gefnogaeth yma, a symud ymlaen tuag at sefyllfa lle mae rhagor o bobl ifanc yn dysgu’r iaith, yn derbyn addysg trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn defnyddio’r iaith wrth gymdeithasu â’i gilydd.”
Nodiadau
Cynhaliwyd yr arolwg gan gwmni Beaufort rhwng 21-30 Tachwedd 2008, a holwyd 1,011 o bobl, wedi eu dewis i fod yn gynrychioladol o bawb yng Nghymru dros 16 oed. Roedd 11% yn dweud eu bod yn siaradwyr Cymraeg rhugl, ac 14% arall yn siarad y Gymraeg, ond ddim yn rhugl.