Llangollen, cartref yr Eisteddfod Ryngwladol, fydd lleoliad cyfarfod agored Bwrdd yr Iaith Gymraeg ar 5 Mawrth 2010, a bydd Prif Weithredwr yr ŵyl, Mervyn Cousins, yn rhoi cyflwyniad i’r aelodau am baratoadau’r Eisteddfod eleni.
Bydd Gwawr Cordiner, Prif Swyddog, Menter Iaith Sir y Fflint, Maelor a Sir Ddinbych, yn dod i siarad am waith Mentrau Iaith Gogledd Cymru. Bydd yr aelodau hefyd yn clywed am Strategaeth Addysg Feithrin y Mudiad Ysgolion Meithrin gan Brif Weithredwr y Mudiad, Hywel Jones.
Disgwylir y bydd Llywodraeth y Cynulliad yn cyhoeddi Mesur drafft ar yr iaith Gymraeg ddechrau mis Mawrth, a bydd yr aelodau’n trafod eu hymateb cychwynnol i’w gynnwys yn y cyfarfod hwn.
Dywedodd Cadeirydd y Bwrdd, Meri Huws:
“Bydd cyhoeddi’r Mesur Iaith yn y Cynulliad ddechrau Mawrth yn ddigwyddiad o bwys mawr i ddatblygiad y Gymraeg, a bydd yn arwain at gyfnod cyffrous o drafod ar lefel genedlaethol am rai misoedd. Yma yn Llangollen bydd aelodau’r Bwrdd yn trafod cynnwys y mesur yn gyhoeddus am y tro cyntaf, ac y mae’n siŵr o fod yn drafodaeth fywiog.
“Ond, rhag i ni gael ein llygad-dynnu’n ormodol gan y sefyllfa ddeddfwriaethol, rwy’n credu fod y cyflwyniadau am waith llawr gwlad y Mentrau Iaith a’r Mudiad Ysgolion Meithrin hefyd yn bwysig iawn. Y sefydliadau hyn sy’n dod i gyswllt dyddiol â phobl Cymru ar lefel gymunedol ac sy’n gwneud cyfraniad hanfodol tuag at barhad yr iaith.
“Mae’n anodd meddwl am Langollen heb feddwl am yr Eisteddfod Ryngwladol a’i lliwiau llachar sy’n dod i’r dref bob blwyddyn. Mae’r Eisteddfod wedi hen ennill ei lle yn Llangollen ers hanner canrif a mwy, a da gweld ymdrech gwirioneddol gan drefnwyr yr Eisteddfod i roi lle mwy blaenllaw i’r Gymraeg yn y blynyddoedd diwethaf. Rydym yn llongyfarch yr Eisteddfod Ryngwladol ar eu polisi iaith gwirfoddol, ac yn edrych ymlaen at glywed beth yw’r sefyllfa ddiweddaraf o ran trefniadau’r ŵyl yr haf hwn.”
Mae croeso mawr i bobl Llangollen a Sir Ddinbych i fynychu’r cyfarfod hwn. Ar ddiwedd y cyfarfod bydd cyfle iddynt rannu eu syniadau, ac i ofyn cwestiynau i aelodau’r Bwrdd am eu gwaith ac am sefyllfa’r Gymraeg yn gyffredinol.
Cynhelir y cyfarfod yng ngwesty’r Wild Pheasant o 9.00 y bore tan 12.00 y prynhawn, ddydd Gwener 5 Mawrth 2010.
Darperir offer cyfieithu.
Gofynnir i unrhyw un sy’n bwriadu mynychu’r cyfarfod gysylltu â swyddfa’r Bwrdd ar 029 20 878 000 neu post@byig-wlb.org.uk.