Sgipio'r prif lywioManylion Bysellau HygyrcheddChwilio
 
Yn adran hon:
Help / Cymorth

Rhaid cael Adobe Acrobat Reader er mwyn gweld ffeiliau PDF ar y wefan hon.

Nôl Acrobat Reader
Buddsoddwr Mewn Pobl
Bwrdd yr Iaith Gymraeg yng Nghaerdydd 

14.06.2010 

 

Croesewir trigolion Caerdydd i gyfarfod agored Bwrdd yr Iaith Gymraeg ddydd Gwener 18 Mehefin yng ngwesty’r Angel ynghanol y ddinas.

Bydd aelodau’r Bwrdd yn trafod llu o bynciau’n ymwneud â’r iaith ac â gwaith y Bwrdd, gan ganolbwyntio’n bennaf ar y maes addysg a sgiliau.

Dywedodd Cadeirydd y Bwrdd, Meri Huws:

“Mae’n bleser gen i wahodd trigolion y brifddinas i wrando ar drafodaethau aelodau’r Bwrdd. Yn ogystal â dysgu am ein gwaith ni o hyrwyddo’r Gymraeg ar draws y sectorau, rwy’n siŵr y bydd diddordeb mawr yn sylwadau ein siaradwyr gwadd. Bydd Geraint Talfan Davies, Cadeirydd Bwrdd Gweithredu Cysgodol y Coleg Ffederal, yn cyflwyno’r sefyllfa ddiweddaraf ynglŷn â sefydlu’r coleg a bydd David Hawker, Cyfarwyddwr yr adran Addysg y Llywodraeth, yn siarad am y Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg.”

Bydd cyfle i’r cyhoedd gyfrannu at y drafodaeth ar ddiwedd y cyfarfod.

Mae agenda’r cyfarfod a’r adroddiadau perthnasol ar wefan y Bwrdd www.byig-wlb.org.uk.

Gofynnir i unrhyw un sy’n bwriadu mynychu i gysylltu â’r Bwrdd yn gyntaf ar 029 2087 8000 neu post@byig-wlb.org.uk.

Cynhelir y cyfarfod rhwng 10.00yb a 3.30yp.


« Nôl

Hawlfraint © Bwrdd Yr Iaith Gymraeg | Polisi Preifatrwydd | Hygyrchedd