Mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg wedi defnyddio’i bŵer statudol llawn er mwyn cyfeirio’r rheoleiddiwr darlledu Ofcom at Lywodraeth y Cynulliad am fethu â llunio cynllun iaith yn foddhaol.
Gofynnodd y Bwrdd i Ofcom gynnwys cymal yn y cynllun iaith a fyddai’n ystyried natur ieithyddol gwahanol gymunedau yng Nghymru wrth lunio trwyddedau darlledu radio; ond gwrthododd Ofcom â gwneud hyn. Dywed y Bwrdd nad yw’n fodlon cymeradwyo’r cynllun iaith heb y cymal allweddol hwn.
Dywedodd Cadeirydd y Bwrdd, Meri Huws:
“Mae sicrhau cyfleoedd i bobl Cymru dderbyn gwasanaeth radio lleol yn eu dewis iaith yn allweddol er mwyn gwireddu amcan y Llywodraeth o alluogi pobl i ddewis byw eu bywyd trwy gyfrwng y Gymraeg yng Nghymru, ac mae Ofcom wedi gwrthod cefnogi’r amcan hwnnw.
“Mae’n destun siom i ni ein bod yn gorfod defnyddio’n pwerau statudol i’r eithaf yn y mater hwn, ac nad yw Ofcom wedi bod yn barod i gydweithredu â ni. Wrth gyfeirio’r mater at y Gweinidog dros Dreftadaeth, Alun Ffred Jones, gofynnwn iddo ddefnyddio’r pwerau sydd ganddo i orfodi Ofcom i fabwysiadu cynllun iaith sy’n cynnwys y darn angenrheidiol am drwyddedau radio.”
Mae’r Bwrdd yn disgwyl cadarnhad o benderfyniad y Gweinidog dros Dreftadaeth ar y mater.
Mae gan ddarlledu radio masnachol rôl allweddol i’w chwarae yng Nghymru wrth gynyddu’r dewis o gynnwys darlledu Cymraeg sydd ar gael i’r cyhoedd. Mae iddo rôl amlwg hefyd wrth gynyddu cyfleoedd i ddefnyddio a dysgu’r Gymraeg, wrth gynyddu statws yr iaith ac wrth symud yn agosach at nod Llywodraeth Cynulliad Cymru o greu Cymru gwir ddwyieithog.