Sgipio'r prif lywioManylion Bysellau HygyrcheddChwilio
 
Yn adran hon:
Help / Cymorth

Rhaid cael Adobe Acrobat Reader er mwyn gweld ffeiliau PDF ar y wefan hon.

Nôl Acrobat Reader
Buddsoddwr Mewn Pobl
Bwrdd yn croesawu’r cyfle i drafod y Mesur iaith newydd 

04.03.2010 

 Wedi taith hir y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol trwy bwyllgorau’r Cynulliad a San Steffan, mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg heddiw’n croesawu gweld Llywodraeth y Cynulliad yn cyhoeddi’r Mesur drafft ar yr iaith Gymraeg.

Dywedodd Cadeirydd y Bwrdd, Meri Huws:

“Does dim gwadu i Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 a sefydlu’r Bwrdd wneud cyfraniad hollbwysig o ran cynyddu’r defnydd o’r iaith ar hyd a lled Cymru. Mae’n rhyfeddol faint mae tirlun ieithyddol y wlad wedi newid yn y deunaw mlynedd diwethaf, gyda’r Gymraeg bellach i’w gweld o’n hamgylch ym mhobman, o Gaergybi i Gasnewydd. Mae hi nawr yn bryd camu ymlaen gan adeiladu ar lwyddiant  Deddf 1993 a holl waith Bwrdd yr Iaith Gymraeg. Rwy’n mawr obeithio y bydd y Mesur hwn, yn enwedig o ran creu Comisiynydd sydd â mwy o bwerau nag sydd gan y Bwrdd, yn sicrhau y bydd gan siaradwyr Cymraeg lawer mwy o gyfleoedd i ddefnyddio’r iaith yn eu bywydau bob dydd yn y dyfodol.”

Ychwanegodd Prif Weithredwr y Bwrdd, Meirion Prys Jones:

“Mae'n dda gweld cyhoeddi'r Mesur drafft ar gyfer Ddeddf Iaith newydd ac rwy'n edrych ymlaen at y drafodaeth fywiog dros y misoedd nesaf. Mae hi’n bwysig bod y gyfundrefn newydd yn un gadarn ac eglur a fydd yn cefnogi datblygiad yr iaith. Does dim dwywaith amdani fod Cymru ar lwyfan byd-eang yn un o'r gwledydd mwyaf arloesol a dyfeisgar o ran hyrwyddo ei hiaith ac mae'n bwysig bod y ddeddfwriaeth newydd yn adeiladu ar y traddodiad hwn.”

Bydd y Bwrdd yn ymateb yn llawn i gynnwys y Mesur dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf. Bydd yr aelodau’n trafod yr ymateb hwnnw yn ei gyfarfod agored yn Llangollen yfory (5 Mawrth 2010).


« Nôl

Hawlfraint © Bwrdd Yr Iaith Gymraeg | Polisi Preifatrwydd | Hygyrchedd