Nododd Bwrdd yr Iaith Gymraeg ei siom heddiw fod Prifysgol Bangor wedi penodi Is-ganghellor di-Gymraeg i’r swydd.
Yn gynharach eleni, pan gyhoeddwyd yr hysbyseb swydd, cynhaliodd y Bwrdd ymchwiliad statudol i’r ffaith nad oedd y swydd-ddisgrifiad yn cyfeirio at yr angen i’r ymgeisydd llwyddiannus allu siarad na dysgu Cymraeg.
Daeth y Bwrdd i’r casgliad fod y Brifysgol wedi mynd yn groes i ysbryd eu cynllun iaith statudol wrth beidio â gosod amod iaith ar y swydd, a’u bod yn gweithredu’n gwbl groes i’r ddelwedd maent yn ceisio ei chreu o fod yn bencampwr iaith Gymraeg colegau Cymru.
Dywedodd Meirion Prys Jones, Prif Weithredwr y Bwrdd:
“Rydw i’n siomedig iawn fod Llys Prifysgol Bangor wedi penderfynu rhoi’r swydd bwysig yma i unigolyn sydd ddim yn medru siarad Cymraeg, iaith sydd mor ganolog i’r Brifysgol a’r gymuned y mae’n rhan ohoni. Nid yw’n gwneud unrhyw synnwyr bod pob un o brif swyddogion prifysgol yng Ngwynedd yn ddi-Gymraeg.
“O edrych ymlaen, mae’n rhaid i’r Brifysgol osod amserlen bendant i’r Athro John Hughes fynd ati i feistroli’r Gymraeg, a dod yn rhugl yn yr iaith, mewn cyfnod penodol. Yn y cyfamser, bydd angen i Cyngor a Llys y Coleg roi neges glir i’r Is-ganghellor newydd fod yn rhaid penodi rhagor o uwch-swyddogion sydd â sgiliau dwyieithog.
“Byddwn yn gofyn am gyfarfod buan gyda’r Is-ganghellor newydd a Chadeirydd y Cyngor i drafod eu cynlluniau o ran cynnal y Gymraeg o fewn gweinyddiaeth a darpariaeth addysgiadol y Coleg.”