Sgipio'r prif lywioManylion Bysellau HygyrcheddChwilio
 
Yn adran hon:
Help / Cymorth

Rhaid cael Adobe Acrobat Reader er mwyn gweld ffeiliau PDF ar y wefan hon.

Nôl Acrobat Reader
Buddsoddwr Mewn Pobl
Ailbenodiad Cadeirydd a saith aelod o Fwrdd yr Iaith Gymraeg 

26.04.2010 

Mae’r Gweinidog dros Dreftadaeth, Alun Ffred Jones, wedi cyhoeddi ailbenodiad Cadeirydd a saith aelod o Fwrdd yr Iaith Gymraeg.

Bydd y Cadeirydd a’r aelodau’n parhau yn eu gwaith o lywio cynllunio ieithyddol yng Nghymru, a hybu a hwyluso defnydd o’r iaith Gymraeg, hyd nes y bydd swyddfa Comisiynydd y Gymraeg yn cael ei sefydlu, yn sgil pasio’r Mesur Iaith arfaethedig.

Mae’r Cadeirydd Meri Huws wedi ei ailphenodi yn ogystal â saith aelod o’r Bwrdd: Marc Phillips, Elin Wyn, Catherine Rees, Gwyneth Morus Jones, Nick Bennett, Huw Jones ac Owen Evans.

Dywedodd Alun Ffred Jones:

“Rwy’n falch o gyhoeddi ailbenodiad aelodau Bwrdd yr Iaith Gymraeg. Bydd eu profiad yn werthfawr yn ystod yr amser arbennig yma o newid yn natblygiad yr iaith Gymraeg."

Ychwanegodd Meri Huws:

“Mae’n bleser cael fy mhenodi i dymor arall yn Gadeirydd y Bwrdd. Rwy’n siarad ar ran yr aelodau i gyd wrth ddweud ein bod yn edrych ymlaen at gyfrannu at y trafodaethau ar y Mesur ac i rannu’n syniadau am ddatblygiad yr iaith yn ystod y cyfnod cyffrous sydd o’n blaenau.

“Y sefyllfa ddeddfwriaethol fydd yn hawlio’r sylw mwyaf yn y wasg a’r cyfryngau dros y misoedd nesaf, fel sydd i’w ddisgwyl, ond bydd swyddogion y Bwrdd yn parhau â’u gwaith o ddydd i ddydd o gynorthwyo sefydliadau ym mhob sector i gynyddu defnydd a darpariaeth Gymraeg, yn ogystal â’r gwaith hollbwysig o gefnogi gweithgarwch Cymraeg ar lawr gwlad ein cymunedau.

“Dymunaf ddiolch i’r tri cyn-aelod o’r Bwrdd y daeth eu tymor i ben yn ddiweddar, sef Yr Athro Colin Williams, Rhiannon Walters a Dr Arun Midha. Dros y blynyddoedd, bu arbenigedd y tri ohonynt yn wirioneddol werthfawr i ni fel Bwrdd, a dymunaf yn dda iddynt yn y dyfodol.”


« Nôl

Hawlfraint © Bwrdd Yr Iaith Gymraeg | Polisi Preifatrwydd | Hygyrchedd