Sgipio'r prif lywioManylion Bysellau HygyrcheddChwilio
 
Yn adran hon:

Rhaid cael Adobe Acrobat Reader er mwyn gweld ffeiliau PDF ar y wefan hon.

Nôl Acrobat Reader
Buddsoddwr Mewn Pobl
60 mil o flodfresych Cymraeg eu hiaith bob wythnos 

27.10.2008 

 

Mae cwmni cynhyrchu bwyd, Really Welsh, wedi llunio polisi iaith sy’n golygu eu bod yn pecynnu eu bwyd yn ddwyieithog.

Mewn cydweithrediad â Bwrdd yr Iaith Gymraeg, mae Really Welsh am gynnwys logo Iaith Gwaith (y swigen siarad oren sy’n dynodi gwasanaeth Cymraeg) ar eu pecynnu blodfresych. Mae’r cwmni’n cynhyrchu 60,000 o flodfresych yn wythnosol ac yn eu cyflenwi i fanwerthwyr ac archfarchnadoedd ar draws Cymru.

Dywedodd Rhiannon Williams o’r cwmni Really Welsh:

"Mae hunaniaeth Gymreig yn ganolog i’n gweledigaeth ni fel cwmni, a rhan annatod o’r hunaniaeth honno yw’r iaith Gymraeg. Mae ymchwil i’r farchnad yn profi bod brandio Cymreig a Chymraeg yn ychwanegu at ansawdd y cynnyrch. Mae pobl yn ymddiried mewn bwyd o Gymru, ac mae pecynnu dwyieithog yn dweud yn syth wrth y cwsmer fod yma gynnyrch o safon uchel. Ein nod yw cynnwys logo Iaith Gwaith ar ein holl gynnyrch yn y dyfodol."

Dywedodd Meri Huws, Cadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg:

"Rwy’n arbennig o falch fod y Bwrdd wedi cydweithio gyda Really Welsh ar ddatblygu’r polisi hwn. Mae mwy a mwy o bobl yn gweld gwerth brandio dwyieithog, ac mae’r ffordd mae Really Welsh yn cyflawni hyn yn rhagorol, ac yn esiampl wych i gwmnïau eraill."

Ychwanegodd y Gweinidog Treftadaeth, Alun Ffred Jones:

"Rwy'n falch iawn o weld y bartneriaeth rhwng Really Welsh a Bwrdd yr Iaith yn dwyn ffrwyth. Mae'n galonogol fod fwy o gwmnïau yn gweld manteision defnyddio'r Gymraeg yn eu marchnata ac wrth gynnig gwasanaethau."


« Nôl

Hawlfraint © Bwrdd Yr Iaith Gymraeg | Polisi Preifatrwydd | Hygyrchedd

Datblygwyd gan Draig Technology Cyf. gyda Microsoft Office SharePoint Server 2007.