Sgipio'r prif lywioManylion Bysellau HygyrcheddChwilio
 
Yn adran hon:
Help / Cymorth

Rhaid cael Adobe Acrobat Reader er mwyn gweld ffeiliau PDF ar y wefan hon.

Nôl Acrobat Reader
Buddsoddwr Mewn Pobl
Microsoft yn darparu rhagor o feddalwedd Cymraeg 

22.05.2009 

Pleser gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg yw cyhoeddi y bydd Microsoft SharePoint ar gael yn y Gymraeg ym mis Mehefin. Bydd y Pecyn Rhyngwyneb Iaith ar gael i’w lwytho i lawr am ddim, diolch i gydweithrediad rhwng Microsoft a’r Bwrdd.

Julie Davies, Athrawes Technoleg Gwybodaeth yn Ysgol Gyfun Bryn Tawe, yn Lansiad Pecyn Rhyngwyneb Cymraeg Microsoft SharePointDaeth cynrychiolwyr o Microsoft, Llywodraeth Cynulliad Cymru ac Ysgol Gyfun Bryn Tawe at ei gilydd ar stondin y Bwrdd yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ar 27 Mai i lansio’r datblygiad diweddaraf hwn mewn technoleg iaith.

Mae Microsoft SharePoint yn llwyfan cydweithio hynod ddatblygedig, sy’n galluogi pobl i letya gwefannau a mewnrwydi busnesau yn ogystal â rhannu deunyddiau ac adnoddau dysgu. Mae’r meddalwedd yn cael ei ddefnyddio gan sefydliadau a busnesau’n fyd-eang.

Wrth lansio SharePoint Cymraeg, dywedodd Steve Beswick, Cyfarwyddwr Addysg Microsoft:

“Mae Technoleg Gwybodaeth yn cael ei defnyddio mwy a mwy wrth gefnogi a darparu ystod eang o wasanaethau ysgol a chwricwlwm. Mae llwyfannau dysgu o’r math yma yn help i ddisgyblion ac athrawon ac yn eu helpu i gael budd sylweddol o ran cymwysterau a chyrhaeddiad. Mae’n bleser gennym ni, fel rhan o’n hymrwymiad parhaus i fusnes ac addysg yng Nghymru, ein bod yn gallu darparu pecyn cefnogi Microsoft SharePoint yn y Gymraeg. Mae hi’n bwysig iawn yn y byd addysg fod gan ddisgyblion ac athrawon dechnoleg y gallant ei defnyddio yn yr iaith y maent yn teimlo fwyaf cyfforddus yn ei defnyddio, fel y gallant ganolbwyntio’n llwyr ar y profiadau dysgu sydd gan y technolegau hyn i’w cynnig.”

Dywedodd Meri Huws, Cadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg:

“Hoffwn longyfarch Microsoft ar y cam diweddaraf hwn o ran datblygu meddalwedd cyfrwng Cymraeg. Mae Technoleg Gwybodaeth yn rhan ganolog o’n bywydau bob dydd – yn yr ysgol neu goleg, yn y gweithle ac yn y cartref – ac mae hi’n bwysig iawn bod siaradwyr Cymraeg yn gallu defnyddio’r iaith ar y cyfrifiadur, ac eu bod yn dod yn hyderus wrth ddefnyddio technoleg trwy gyfrwng y Gymraeg o oedran Plant Ysgol Uwchradd Llanfyllin yn defnyddio meddalwedd yn Gymraegifanc.”

Ychwanegodd Jane Hutt, y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau:

“Mae hi’n bwysig bod gan bawb y cyfle i ddatblygu sgiliau Technoleg Gwybodaeth trwy gyfrwng y Gymraeg o oedran ifanc. Yn ddiweddar fe lansiodd Llywodraeth y Cynulliad strategaeth addysg Gymraeg, sy’n galluogi pobl ifanc i ddilyn eu llwybr addysgol trwy gyfrwng y Gymraeg os ydynt yn dymuno gwneud hynny. Bydd y feddalwedd newydd hon yn adnodd gwerthfawr i’r rheiny sy’n astudio, gweithio a chymdeithasu yn y Gymraeg "

Un ysgol sy’n edrych ymlaen i roi SharePoint Cymraeg ar waith yn eu dosbarthiadau yw Ysgol Gyfun Bryn Tawe yn Abertawe. Dywedodd Julie Davies, sy’n athrawes yn yr ysgol:

“Fel ysgol a chanolfan rhagoriaeth i addysg Gymraeg, rydym ni bob amser wedi manteisio ar adnoddau a mentrau newydd sydd ar gael yn yr iaith. Mae hi’n gyffrous gweld cwmni Technoleg Gwybodaeth mawr yn cydnabod ac yn ymateb i’r angen am fwy o adnoddau yn ein hiaith gyntaf ni. Rwy’n credu bod Edunet Abertawe, sydd wedi ei adeiladu ar SharePoint, yn gwella cyfathrebu yn yr ysgol ac yn creu cymuned dysgu effeithiol i’r aelodau staff a’r disgyblion.”

- Diwedd -

Nodiadau i olygyddion

 

Cynhaliwyd y lansiad 11:15 – 11:45yb, Dydd Mercher 27 Mai 2009 ar stondin Bwrdd yr Iaith Gymraeg ar faes Eisteddfod yr Urdd ym Mae Caerdydd.  

  • Fel rhan o’r bartneriaeth a gyhoeddwyd heddiw, cynhyrchwyd Pecyn Rhyngwyneb Cymraeg i Microsoft SharePoint Services 2007.
  • Bydd y pecyn rhyngwyneb i SharePoint 2007 yn cyfieithu cyfran helaeth o ryngwyneb defnyddiwr y rhaglenni canlynol:
  • Microsoft SharePoint 2007.
  • Mae’r Pecyn Rhyngwyneb Iaith hwn yn dod yn sgil gwaith a wnaed eisoes fel rhan o’r Bartneriaeth rhwng Bwrdd yr Iaith Gymraeg a Microsoft, a greodd Becynnau Rhyngwyneb Iaith yn rhad ac am ddim i Microsoft Office 2003 a 2007, a hefyd Windows XP a Windows Vista.
  • Mae’r holl waith a wneir fel rhan o’r prosiect hwn wedi’i ariannu’n llwyr gan Microsoft.
    Gwnaed y gwaith cyfieithu gan gwmni cyfieithu Cymen o Gaernarfon ac fe gafodd y prosiect, ac ansawdd y gwaith ei reoli gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg.
  • Am ragor o wybodaeth ynghylch Microsoft SharePoint, gweler: http://www.microsoft.com/sharepoint/default.mspx

 

Ynglŷn â Microsoft

Wedi ei sefydlu ym 1975, Microsoft (Nasdaq "MSFT") yw'r arweinwyr byd-eang mewn meddalwedd, gwasanaethau ac atebion sy'n helpu pobl a busnesau i gyflawni eu holl potensial. Am ragor o wybodaeth am Microsoft ac addysg, ymwelwch â www.microsoft.com/uk/education.

 

Ynglŷn â Microsoft Office SharePoint Server 2007

Mae Microsoft Office SharePoint Server 2007 yn darparu lleoliad sengl, integredig lle gall defnyddwyr gydweithio’n effeithiol, chwilio am wybodaeth, rheoli cynnwys a llyfnhau prosesau gweinyddol. Mae’n integreiddio’n hawdd â systemau TG sydd eisoes yn eu lle, ac mae’n gymorth i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth drwy cynorthwyo i staff gael hyd i wybodaeth yn haws, i’w rhannu ac i adrodd arni. Er mwyn llwyddo ym myd addysg, rhaid rhannu gwybodaeth yn effeithiol. Mae Office SharePoint Server 2007 yn cynorthwyo i ysgolion adeiladu mewnrwydi sy’n cysylltu Myfyrwyr, Athrawon, Rhieni a staff Gweinyddol mewn dull newydd, gan roi mynediad i gynnwys addysgiadol allweddol o amrediad eang o ffynonellau addysgiadol mewn modd cyflym a hwylus – cymuned dysgu gysylltiedig. Gellir integreiddio rhaglenni allweddol â dangosfwrdd a chydrannau gwe er mwyn creu pyrth ag arnynt gynnwys sydd wedi ei bersonoleiddio i fyfyrwyr, athrawon, rheini a gweinyddwyr. Mae’n annog cydweithredu drwy byrth sy’n cynorthwyo rhannu dogfennau a chyfathrebu. Gellir cynnal ymchwil, adroddiadau, newyddion a chyhoeddiadau mewn un pwynt sengl.  Gellir chwilio’r rhain oll yn hawdd a chyfuno’r canlyniadau ag ymchwiliadau ar draws sawl ffynhonnell data.

  • Mae'n creu a rheoli gwefannau wedi eu personoleiddio, wedi eu proffilio ar gyfer chwilio, cynulleidfa ac arbenigedd pwnc
  • Mae’n gwneud gwefannau nad oedd wedi cysylltu â’i gilydd yn haws i’w darganfod ac i’w rheoli
  • Mae’n uno’r sefydliad a’i bobl gyda chydrannau cydweithredu estynedig i Athrawon, Myfyrwyr, Rhieni a staff Gweinyddol
  • Mae’n rhoi data perthnasol ar flaenau’ch bysedd ac mae’n eich galluogi i fod yn fwy cynhyrchiol drwy roi i chi’r wybodaeth ddiweddaraf

 

SharePoint yw sylfaen y Porth Dysgu ac mae o fudd i bawb:

Buddion i ddisgyblion – gallant ddod o o hyd i wybodaeth, ei defnyddio a’i rhannu: gellir storio ffeiliau, asesiadau a gwaith cartref pob disgybl yn ddiogel, a’u cyrchu o’u porth personol ar Microsoft Learning Gateway. Gall myfyrwyr: gwblhau a chyflwyno asesiadau ar-lein. Gallant e-bostio cwestiynau at athrawon. Gallant gydweithredu gyda phobl eraill a rhannu lluniau, fideos a gwaith prosiect. Gallant weld pan fydd addysgwyr a chyd-fyfyrwyr ar-lein a chyfathrebu mewn amgylchedd diogel. Gallant bersonoleiddio eu porth. Mae’n gweithio i athrawon: gellir defnyddio Microsoft Learning Gateway i farcio profion aml ddewis yn awtomatig, gall helpu athrawon i asesu cynnydd pob disgybl a monitro dysgu disgyblion yn ôl ei arddull dysgu ei hun. Mae’n darparu nodweddion cyfathrebu hawdd eu defnyddio a dogfennau i’w rhannu sy’n cynyddu cynhyrchiant, sy’n arbed amser ac sy’n torri llwyth gwaith. Gall athrawon ei ddefnyddio i greu aseiniadau, eu golygu a’u hanfon at fyfyrwyr. Gallant storio gwaith myfyrwyr, adroddiadau, cynlluniau gwersi a deunydd cwrs mewn lleoliad canolog. Cynnwys Rhieni yn addysg eu plant: gydag amgylchedd Microsoft Learning Gateway, gellir estyn gwahoddiad, drwy gyfrinair, i rieni gael gwybodaeth gyfredol ar gyfradd mynychu’r myfyrwyr, eu graddau, eu haseiniadau, eu hamserlenni a’r digwyddiadau sydd ar ddod. Gall rhieni gymryd rhan yn uniongyrchol yn y broses dysgu ac ymweld â fforymau trafod ar y porth er mwyn rhannu gwybodaeth a barn ag athrawon eraill ac â’r athrawon.

Buddion i’r Gweinyddwr – Gweinyddiaeth symlach, mwy llyfn.

 

Ynglŷn â Bwrdd yr Iaith Gymraeg

Mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn gorff statudol a noddir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Fe’i sefydlwyd yn Rhagfyr 1993, o dan delerau Deddf yr Iaith Gymraeg. Ei brif swyddogaeth yw hybu a hwyluso defnyddio’r iaith Gymraeg.

Penodir aelodau gan Weinidog Treftadaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru, ac mae ganddo staff o dros saith deg. O dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998, daeth y Bwrdd yn atebol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, ar ôl bod yn atebol i a chael ei ariannu gan y Swyddfa Gymreig yn y gorffennol.

Yn syml, prif nod y Bwrdd yw ei gwneud hi’n haws i bawb ddefnyddio Cymraeg ymhob agwedd ar fywyd, i fagu hyder pobl yn eu gallu i ddefnyddio’r iaith, i annog mwy o bobl i siarad, darllen ac ysgrifennu Cymraeg mewn sefyllfaoedd newydd, ac i drosglwyddo’r iaith i’w plant.

Mae’r Bwrdd yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau’r sector cyhoeddus, busnesau preifat a sefydliadau gwirfoddol gan gynnig cyngor ac adnoddau i gynorthwyo darparwyr gwasanaethau i gynnig dewis iaith naturiol. Ceir rhagor o wybodaeth am ein blaenoriaethau strategol a’n holl waith ar ein gwefan, sydd hithau hefyd wedi ei lletya ar SharePoint.


« Nôl

Hawlfraint © Bwrdd Yr Iaith Gymraeg | Polisi Preifatrwydd | Hygyrchedd