Sgipio'r prif lywioManylion Bysellau HygyrcheddChwilio
 
Yn adran hon:
Help / Cymorth

Rhaid cael Adobe Acrobat Reader er mwyn gweld ffeiliau PDF ar y wefan hon.

Nôl Acrobat Reader
Buddsoddwr Mewn Pobl
Y Bwrdd yn Llanbedrog 

22.06.2009 

Bydd Strategaeth Addysg Gymraeg y Llywodraeth a’i heffaith ar ddyfodol yr iaith yn cael sylw arbennig gan aelodau Bwrdd yr Iaith Gymraeg wrth iddynt ddod ynghyd ym Mhen Llŷn ddydd Gwener yma (19 Mehefin).

Wrth i’r aelodau drafod eu hymateb i’r Strategaeth bydd Dr Ian Rees, Pennaeth a Phrif Weithredwr Coleg Meirion Dwyfor, hefyd yn cyflwyno ei sylwadau am y Strategaeth a’r cyfleon sy’n codi ohoni.

Dywedodd Meri Huws, Cadeirydd y Bwrdd:

“Roedd cyhoeddi’r Strategaeth Addysg Gymraeg ym mis Mai yn gam pwysig ymlaen. Mae’n cynnig dadansoddiad treiddgar o’r sefyllfa gyfredol ac yn amlinellu nifer o gynigion y mae angen eu hystyried yn fanwl.

“Byddwn hefyd yn trafod y cyswllt rhwng adfywio’r economi a’r iaith, pwnc sy’n berthnasol iawn i’w wyntyllu yn y rhan yma o Gymru wrth gwrs.

“Mae croeso mawr i bobl y cyffiniau ddod draw i’r cyfarfod i wrando ar y trafodaethau, i holi ac i rannu gwybodaeth am sefyllfa’r Gymraeg yn yr ardal.”


« Nôl

Hawlfraint © Bwrdd Yr Iaith Gymraeg | Polisi Preifatrwydd | Hygyrchedd