Ddydd Iau, Mehefin 1, bydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn lansio cyfnod treialu cyhoeddus ar gyfer rhaglen gyfrifiadurol newydd sbon.
Mae’r Ganolfan Rheoli Iaith (gweler y cipluniau isod), sydd ar gael i’w llwytho yn rhad ac am ddim o wefan y Bwrdd, yn cynnig dewis Iaith i ddefnyddwyr cyfrifiaduron mewn cartrefi a gweithleoedd dwyieithog. Mae’n caniatáu defnyddwyr i ddewis naill ai’r Gymraeg neu’r Saesneg fel iaith rhyngwyneb Windows XP ac Office 2003 ynghyd â darparu tiwtorial ar sut mae teipio acenion a gwirio sillafu yn Gymraeg. Mae hefyd yn cynnwys rhestr gyfleus o dermau technoleg yn Gymraeg a Saesneg.
A does dim angen poeni rhagor os na fydd y technegydd yn y gwaith neu staff y siop gyfrifiaduron leol yn ddi-Gymraeg. Nawr, mae modd newid rhwng y Gymraeg a’r Saesneg fel y mynnwch chi – dim ychydig o gliciau mae’n ei gymryd!
Un o nodau Dogfen Strategaeth y Bwrdd ar gyfer Technoleg a’r Gymraeg a gyhoeddwyd yn ddiweddar yw hwyluso newid rhwng y Gymraeg a’r Saesneg ym myd Technoleg. Mae hyn yn rhan o ymrwymiad ehangach i Bwrdd i ragor o ddatblygiadau ym myd Technoleg y Gymraeg gan fod technoleg yn chwarae rhan gynyddol bwysig yn ein bywydau ni i gyd.
Gwerthfawrogwn eich adborth ar y Ganolfan Rheoli Iaith drwy e-bost at post@byig-wlb.org.uk
Nodiadau i olygyddion
1. Gan fod cynifer o gartrefi a sefydliadau Cymru yn ddwyieithog, rhaid medru newid technoleg rhwng y Gymraeg a’r Saesneg yn hawdd. Gall siaradwyr Cymraeg a’r di-Gymraeg rannu’r un peiriannau yn y cartref neu yn y gwaith, sydd hefyd yn pwysleisio’r angen i newid iaith rhyngwyneb y defnyddiwr yn ddidrafferth.
2. Mae’r Ganolfan Rheoli Iaith (CRhI) [gweler y cipluniau isod] yn cydymffurfio â Safonau a Chanllawiau’r Bwrdd ar gyfer Meddalwedd Dwyieithog a gyhoeddwyd yn ddiweddar (safonau a chanllawiau).
3. Mae’r CRhI yn llwyr ddwyieithog ac mae modd newid iaith ei rhyngwyneb rhwng y Gymraeg a’r Saesneg ar unrhyw adeg.
4. Mae’r CRhI yn cynnwys taenlen o’r termau technoleg wedi eu safoni a gynhwysir yng Nghronfa Genedlaethol o Dermau y Bwrdd.
5. Mae’r CRhI yn cynnwys tiwtorial ar sut mae teipio acenion, gan gynnwys y rheini ar ‘w’ ac ‘y’.
6. Mae’r CRhI yn cael ei chychwyn drwy glicio ar logo Iaith Gwaith Bwrdd yr iaith Gymraeg sy’n ymddangos ar eich Bwrdd Gwaith yn awtomatig adeg gosod y Ganolfan.
7. Mae dwy lefel i’r CRhI. Mae tair swyddogaeth i’r lefel uwch (1) dolen i’r derminoleg a ddisgrifiwyd uchod (2) dolen i’r tiwtorial ar acenion (3) dewis iaith syml sy’n eich galluogi i newid yr holl ryngwyneb rhwng y Gymraeg a’r Saesneg (Office 2003 [os yw wedi ei gosod] a Windows XP). Ar yr ail lefel, ceir dewisiadau system manylach.
8. Os na fydd ‘proffiliau defnyddwyr’ wedi eu galluogi ar y peiriant, bydd y CRhI yn cynnig dolen i adran gymorth Windows ar broffiliau defnyddwyr. Pan fydd unrhyw ddefnyddiwr yn cyflwyno’i hun i proffil am y tro cyntaf (a dim ond y tro cyntaf) wedi gosod y rhaglen, bydd y Ganolfan Rheoli Iaith yn tanio ac yn cynnig dewis iaith y rhyngwyneb i’r defnyddiwr.
9. Ni fydd Bwrdd yr iaith Gymraeg yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod pa sut bynnag y bydd yn cael ei achosi, a fo’n deillio’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol o ddefnyddio’r feddalwedd hwn neu’r data sydd arni. Ni roddir gwarant bod y feddalwedd hon yn rhydd rhag firysau a chyfrifoldeb y defnyddiwr yn unig fydd sganio’r ddisg am firws. Darperir y Ganolfan Rheoli Iaith ‘fel y mae’ ac ni ellir darparu cefnogaeth iddi gan unrhyw barti.
10. Datblygwyd y CRhI gan Dechnoleg Draig Cyf a Bwrdd yr iaith Gymraeg.
11. Croesewir eich sylwadau ar y Ganolfan Rheoli Iaith drwy e-bost at post@byig-wlb.org.uk.
