Sgipio'r prif lywioManylion Bysellau HygyrcheddChwilio
 
Yn adran hon:
Help / Cymorth

Rhaid cael Adobe Acrobat Reader er mwyn gweld ffeiliau PDF ar y wefan hon.

Nôl Acrobat Reader
Buddsoddwr Mewn Pobl
Prif Weithredwr y Bwrdd i Ymddeol 

30.07.2003 

 Bydd John Walter Jones, Prif Weithredwr Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn ymddeol o'r swydd ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, ym mis Mawrth 2004.

Fe'i secondiwyd o'r Swyddfa Gymreig yn 1988 i sefydlu'r Bwrdd Iaith ymgynghorol dan gadeiryddiaeth John Elfed Jones. Cyn hynny bu'n gyfrifol o fewn y Swyddfa Gymreig am ddatblygu polisi iaith a sefydlu'r gyfundrefn grantiau gyntaf erioed i gynnal agweddau o'r iaith Gymraeg.

John

Meddai Rhodri Williams, Cadeirydd presennol y Bwrdd:

"Mae cyfraniad John i Fwrdd yr Iaith Gymraeg ac i'r iaith yn gyffredinol wedi bod yn aruthrol. Bu John yn ymwneud yn broffesiynol â'r iaith yn ystod un o'r cyfnodau mwyaf cyffrous yn ei hanes modern.

"Roedd sefyllfa'r iaith yn bur wahanol pan ddechreuodd John ar ei waith dros y Gymraeg. Mewn gwirionedd, ef yn fwy na neb arall bron yng Nghymru, fu'n gyfrifol am lywio polisi ar y Gymraeg dros y chwarter canrif diwethaf, mewn cyfnod a welodd sefydlu'r Bwrdd statudol a phasio Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 – dau gam allweddol i'r iaith. Cam allweddol arall i'r Gymraeg fu cyhoeddi Iaith Pawb, cynllun strategol y Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer creu Cymru ddwyieithog, a chwaraeodd John a'r Bwrdd rôl hollbwysig gan gynghori gweinidogion a swyddogion Llywodraeth y Cynulliad."

Ychwanegodd Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, cyn-gadeirydd y Bwrdd:

"Roedd cael John yn Brif Weithredwr pan ddeuthum yn Gadeirydd y Bwrdd yn 1993 yn gaffaeliad enfawr. Llwyddodd i roi'r Bwrdd ar seiliau proffesiynol a chadarn o'r cychwyn, a thrwy hynny sicrhau fod modd i ni yng Nghymru ymgymryd â chynllunio ieithyddol am y tro cyntaf erioed. Bu'n arloeswr yn ei gyfnod ac mae i’w allu a'i wybodaeth barch ymhell y tu hwnt i Gymru"

Yn ystod ei gyfnod yn y Swyddfa Gymreig lle roedd yn gyfrifol am ddatblygu polisi ar yr iaith, bu'n gweithio'n agos efo'r Arglwydd Roberts o Gonwy.

Dywedodd yr Arglwydd Roberts:

"Bu'n bleser mawr i mi weithio efo John yn ystod ei amser yn y Swyddfa Gymreig. Bu'n gyfnod cyffrous iawn o ran yr iaith; gan gynnwys sefydlu S4C; sicrhau lle priodol i'r Gymraeg o fewn y Cwricwlwm Cenedlaethol ac, wrth gwrs, sefydlu Bwrdd yr Iaith Gymraeg.

"Cefais gyngor call a diduedd ganddo drwy ystod ei gyfnod yn y Swyddfa Gymreig – ac nid oedd gennyf unrhyw amheuaeth mai John oedd y person iawn i arwain y Bwrdd. Mae llwyddiant y corff hwnnw dros y blynyddoedd yn dyst i'r arweiniad doeth, clir a chadarn y cafwyd ganddo ar hyd yr amser. Bu cyfraniad John at sicrhau dyfodol llewyrchus i'r iaith yn allweddol – a mawr yw ein diolch iddo am ei ymroddiad i'w waith – a’i gariad at yr iaith. Does fawr neb wedi gwneud mwy dros yr iaith na John Walter."

Ychwanegodd Rhodri Williams:

"Mawr yw ein diolch ni fel Bwrdd i John am ei gyngor a'i arweiniad dros y blynyddoedd. Yn ddi-os, bydd bwlch enfawr ar ei ôl yma yn y Bwrdd, a dymunwn yn dda iddo yn ei ymddeoliad."


« Nôl

Hawlfraint © Bwrdd Yr Iaith Gymraeg | Polisi Preifatrwydd | Hygyrchedd