Mae penderfyniad Llywodraeth San Steffan i wrthod caniatáu cynnull rheithgorau Cymraeg eu hiaith mewn achosion penodol yn gamgymeriad dybryd, ac yn dangos diffyg dealltwriaeth o sefyllfa ieithyddol Cymru, yn ôl Bwrdd yr Iaith Gymraeg.
Wrth ymateb i ddatganiad y Weinyddiaeth Gyfiawnder, dywedodd Prif Weithredwr Bwrdd yr Iaith Gymraeg, Meirion Prys Jones:
“Rydw i’n hynod siomedig o glywed am benderfyniad y Llywodraeth i beidio sefydlu rheithgorau dwyieithog yma yng Nghymru. Mae’r sawl sy’n dewis rhoi ei dystiolaeth yn y llys drwy gyfrwng y Gymraeg dan anfantais fawr o’r herwydd, gan fod angen i’r dystiolaeth honno gael ei chyfieithu i’r rheithwyr. Mae hi’n anochel y bydd rhai pethau’n cael eu colli mewn cyfieithiad, ac felly mae’r egwyddor o sefydlu rheithgorau dwyieithog yn ganolog i sicrhau cyfiawnder mewn achosion o’r fath. Mae risg amlwg y bydd siaradwyr Cymraeg yn anfodlon defnyddio’r Gymraeg yn y llys oherwydd amheuaeth ynghylch dilysrwydd cyflwyno tystiolaeth drwy gyfieithydd.
“Tra fy mod i’n cydnabod na fyddai mor rhwydd dewis rheithgor Cymraeg ei iaith ar hap ym mhob rhan o Gymru, gan nad yw’r canrannau o siaradwyr Cymraeg bob amser yn arbennig o uchel, nid wyf yn derbyn mai dyna fyddai’r sefyllfa ar draws Cymru. Yn yr ardaloedd hynny lle mae yna niferoedd uchel o siaradwyr Cymraeg, yn y Gogledd a’r Gorllewin, byddai dewis rheithgor Cymraeg ar hap yn gwbl ymarferol.
“Nid yn unig mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi dangos diffyg dealltwriaeth o sefyllfa ieithyddol Cymru, mae hi hefyd wedi ymddwyn yn anghyson â’i harferion ei hunan. Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer rhai swyddi Ynadon Heddwch yng Nghymru, a hynny er mwyn sicrhau dealltwriaeth lawn o’r achosion. Ymhellach na hynny, ni ddewisir rheithwyr yn gyfan gwbl ar hap ar hyn o bryd ychwaith. Rhaid cael ‘sgiliau Saesneg priodol’ i wasanaethu fel rheithiwr dan Ddeddf Rheithgorau 1974. Os yw’n dderbyniol i gyfyngu ar y dewis o reithwyr ar sail iaith drwy ddewis siaradwyr Saesneg yn unig, yna gellir gyfiawnhau dewis o blith siaradwyr Cymraeg yn unig hefyd gan y byddai hynny’n driniaeth gyfartal o’r ddwy iaith wrth ddewis rheithwyr, yn unol ag egwyddor Deddf yr Iaith Gymraeg 1993. Mae yna wendid sylfaenol iawn yn eu rhesymeg dros wrthod rheithgorau dwyieithog, felly.”