Olew Coginio, canolfan ieuenctid a gorsaf deledu genedlaethol, oedd rhai o enillwyr Gwobrau Dylunio Dwyieithog 2007 a gynhaliwyd yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd, neithiwr, nos Fawrth 12 Mehefin 2007.
Gwobrwywyd gwaith dylunio dwyieithog dros y flwyddyn ddiwethaf ar draws 11 categori - o waith hysbysebu i amgylcheddol i becynnu bwyd a diod.
Bu’n noson hynod lwyddiannus i S4C a enillodd 5 o’r 11 categori ac enwyd Dylan Griffith, Cyfarwyddwr Creadigol S4C, yn Ddylunydd y Flwyddyn 2007.
Dywedodd
Meri Huws, Cadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg, ”Mae’r Gwobrau Dylunio yn achlysur gwych i gydnabod, gwobrwyo a dathlu holl waith dylunio dwyieithog da y flwyddyn ddiwethaf. Mae tua mil o gwmnïau wedi cystadlu eleni sy’n tystio i’r galw mawr a’r gwerthfawrogiad sydd bellach o effaith gadarnhaol y gall gwaith dylunio dwyieithog gael ar gynnyrch, ymgyrch neu hysbyseb.”
Dyma’r seithfed tro i’r Gwobrau Dylunio Dwyieithog gael eu cynnal, ac mae’r digwyddiad yn tyfu o ran apêl a statws. Nod y gystadleuaeth yw hyrwyddo a chodi proffil dylunio dwyieithog gan gydnabod y gorau yn y maes arbenigol hwn.
Dywedodd
Meri Huws, “Be sy’n arwyddocaol am y rhestr fer ac yn wir am enillwyr y categorïau yw bod yna gymysgedd o gwmnïau mawr a bach sy’n profi gall unrhyw gwmni ddefnyddio’r Gymraeg i frandio eu hunaniaeth fel cwmni neu i farchnata eu cynnyrch neu’u nwyddau.
Ychwanegodd
Meri Huws, ” Mewn cyfnod lle mae pawb yn ymwybodol iawn o bwysigrwydd prynu nwyddau lleol, gall yr iaith chwarae rhan hynod bwysig wrth fynd ati i frandio cynnyrch neu nwyddau Cymreig. Gall y Gymraeg fod yn arf marchnata allweddol i greu argraff ac i wahaniaethu un cynnyrch o’r gweddill. ”
Plesiwyd beirniaid y Gwobrau eleni gan safon uchel y gwaith a ddaeth i law.
Dywedodd
Angela Gidden, dylunydd ac un o feirniaid y gwobrau, “Roedd safon uchel iawn i’r gwaith ym mhob categori eleni. Gall unrhyw un weld o’r gwaith oedd ar y Rhestr Fer fod dim angen cyfaddawdu dim ar ddylunio oherwydd dwyieithrwydd. Mewn gwirionedd, mae dylunwyr da, yn aml yn defnyddio’r elfen o ddwyieithrwydd I ychwanegu dyfnder a dimensiwn artistig i’w gwaith.”
Noddwyd Gwobrau Dylunio Dwyieithog 2007 gan TESCO, HSBC, Borders a a Marks & Spencer.
Enillwyr bob categori:
Categori Cyfryngau Newydd
The Festivals Company - Ffresh (Green Land Design)
Categori Hyrwyddo Corfforaethol
S4C (Departures)
Categori Hyrwyddo i’r Cwsmer
Canolfan Ymgynghorol ar gyfer Addysg (Hoffi)
Categori Hysbysebu
S4C (Departures)
Categori Arwyddion
Shine (Elfen)
Categori Paneli Arddangos
S4C (S4C Creadigol)
Categori Pecynnu Bwyd a Diod
Bwyd Calon Lân Cyf (Jeff Gill)
Categori Brand Cymreig
S4C (Proud Creative & S4C Creadigol)
Categori Amgylcheddol
Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru (Hemingway Design)
Categori Gwaed Newydd
Siôn Dafydd - Kutchibok
Dylunydd y Flwyddyn
Dylan Griffith – Cyfarwyddwr Creadigol S4C
Am ragor o fanylion cysylltwch â Luned Jones, Swyddog y Wasg, Bwrdd yr Iaith Gymraeg – 07977 219395
post@byig-wlb.org.uk