Mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi cyhoeddi drafft o gynllun iaith Gymraeg diwygiedig, o dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993, yn esbonio sut y bydd yn cynnig gwasanaethau i’r cyhoedd drwy gyfrwng y Gymraeg. Maent bellach yn ymgynghori’n gyhoeddus ar gynnwys y cynllun, a gellir ei weld drwy ddilyn y ddolen ar ochr dde'r sgrin.
Nid yw cyhoeddi’r ddolen ar ein gwefan yn golygu bod y Bwrdd wedi cymeradwyo’r cynllun. Yn dilyn y cyfnod ymgynghori, bydd y Bwrdd yn ystyried y cynllun ac fe all gymeradwyo’r cynllun, neu beidio, bryd hynny.