Mae offer Cymraeg i Apple Mac OS X ar gael i’w lwytho yn rhad ac am ddim yn sgil cydweithrediad rhwng Bwrdd yr Iaith Gymraeg ac Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor.
Am y tro cyntaf bydd defnyddwyr Apple Mac OS X yn gallu defnyddio set gynhwysfawr o raglenni gwirio sillafu a gramadeg Cymraeg, yn ogystal â chyfres o eiriaduron Cymraeg/Saesneg. Yn yr un modd â rhaglenni cyfrifiadurol Cymraeg eraill bydd Cysgliad i Apple Mac OS X yn gweithio â’r rhan fwyaf o feddalwedd a ddefnyddir bob dydd gan ddefnyddwyr Apple Macintosh.
Cynhyrchwyd Cysgliad ar gyfer Apple Mac drwy gymorth grant gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg. Dywedodd Meirion Prys Jones, Prif Weithredwr y Bwrdd:
“Mae hwn yn ddatblygiad allweddol i’r iaith Gymraeg, ac rydym yn arbennig o falch fod yr offeryn hwn ar gael yn rhad ac am ddim i siaradwyr Cymraeg ei ddefnyddio yn eu bywydau bob dydd, boed hynny yn y gwaith n
eu yn y cartref. Mae’n dilyn datblygiadau cyffrous eraill ym myd technoleg, gan gynnwys pecynnau rhyngwyneb iaith yn rhad ac am ddim i Microsoft Office a Windows.”
Dywedodd Delyth Prys, arweinydd Uned Technolegau Iaith, Canolfan Bedwyr:
“O’r blaen dim ond ar Microsoft Windows oedd Cysgliad ar gael, ond fe gawsom ni nifer o geisiadau am fersiwn a fyddai’n addas ar gyfer cyfrifiaduron Apple Mac OS X. Mae’n well gan rai dylunwyr graffeg, cyhoeddwyr a ffotograffwyr ddefnyddio Apple Mac OS X, ac mae’r ddarpariaeth o offer Cymraeg yn hanfodol iddynt wirio ansawdd eu cynnyrch Cymraeg.”
Nodiadau i Olygyddion
- Mae Cysgliad i’r Mac ar gael ar gyfer cyfrifiaduron Apple Mac OS X, 10.4 neu hwyrach. Gellir ei lwytho yn rhad ac am ddim oddi ar http://e-gymraeg.org/cysgliadmac/
- Mae Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr yn uned ymchwil sy'n datblygu adnoddau iaith ar gyfer y Gymraeg, yr ieithoedd Celtaidd eraill, a sefyllfaoedd amlieithog. Cafodd ei sefydlu ar ei ffurf bresennol yn 2002. Mae unigolion o fewn yr uned wedi bod yn datblygu cymwysiadau technolegau iaith ar gyfer Prifysgol Bangor ers 1993
- Ym mis Hydref 2007, dyfarnodd Llywodraeth Cynulliad Cymru arian KEF i’r Uned Technolegau Iaith i gysylltu Canolfannau Addysg Uwch a Busnesau Bach a Chanolig yng Nghymru sy’n ymddiddori yn y cyfleoedd sy’n codi ar lefel ryngwladol a lleol o gynyddu’r defnydd o Dechnolegau Lleferydd a Iaith
- Mae’r datblygiad hwn yn deillio o Technoleg Gwybodaeth a’r Gymraeg: Dogfen Strategaeth, dogfen a luniodd y Bwrdd ar gais Llywodraeth Cynulliad Cymru yn y ddogfen Iaith Pawb. Mae’r Strategaeth yn nodi polisi’r Bwrdd sef y bydd yr holl offer cyfrifiadurol mae’n buddsoddi ynddynt ar gael yn rhad ac am ddim i ddefnyddwyr.