Sgipio'r prif lywioManylion Bysellau HygyrcheddChwilio
 
Yn adran hon:
Help / Cymorth

Rhaid cael Adobe Acrobat Reader er mwyn gweld ffeiliau PDF ar y wefan hon.

Nôl Acrobat Reader
Buddsoddwr Mewn Pobl
Cymraeg a Saesneg ar wefannau Llywodraeth Prydain - diolch i Fwrdd yr Iaith Gymraeg 

11.07.2002 

Mae Llywodraeth Prydain wedi derbyn cyngor Bwrdd yr Iaith Gymraeg bod angen i safle gwe pob sefydliad llywodraethol sy’n gwasanaethu’r cyhoedd yng Nghymru, gynnwys Cymraeg a Saesneg. Dyma oedd prif fyrdwn cyngor a roddwyd gan y Bwrdd fel rhan o ymgynghoriad Prydeinig ar safleoedd gwe, a gynhaliwyd yn gynharach eleni.

Mae’r Canllawiau ar Ddylunio Gwe, a gynhyrchwyd gan Lywodraeth Prydain ar gyfer timau rheoli gwefannau, yn cynnwys argymhellion y Bwrdd ynglŷn â’r Gymraeg a dwyieithrwydd mewn safleoedd gwe.

Meddai Rhodri Williams, Cadeirydd y Bwrdd:

“Mae hwn yn newyddion ardderchog i’r Bwrdd a’r Gymraeg ei hun, gan bydd rhaid i gyrff statudol yng Nghymru ystyried y ddwy iaith pan yn datblygu safleoedd ar y we, o hyn ymlaen.

“’Rydym ni fel Bwrdd mewn sefyllfa unigryw i gynnig cyngor i Lywodraeth Prydain ar y pwnc yma, gan ein bod yn cynghori sefydliadau a mudiadau ar gyfeiriadau dwyieithog ar gyfer safleoedd gwe, rhoi’r un flaenoriaeth i’r ddwy iaith, a newid o iaith i iaith ar dudalennau uniongyrchol ar y we, yn rheolaidd.

“Mae’r holl gyngor a gynigwyd gan y Bwrdd yn enghreifftiau o arfer gorau, a 'rydym yn falch iawn fod dogfen mor bwysig ar gyfer y rheiny sy’n datblygu safleoedd ar y we yn cynnwys ein holl sylwadau a syniadau,” ychwanegodd.

Gellir llwytho’r Canllawiau ar gyfer Safleoedd Gwe Llywodraeth Prydain, drwy ymweld â www.e-envoy.gov.uk/webguidelines.htm.

-Diwedd-

« Nôl

Hawlfraint © Bwrdd Yr Iaith Gymraeg | Polisi Preifatrwydd | Hygyrchedd