Sgipio'r prif lywioManylion Bysellau HygyrcheddChwilio
 
Yn adran hon:
Help / Cymorth

Rhaid cael Adobe Acrobat Reader er mwyn gweld ffeiliau PDF ar y wefan hon.

Nôl Acrobat Reader
Buddsoddwr Mewn Pobl
Cwricwlwm Llythrennedd Digidol Microsoft yn rhoi dewis i siaradwyr Cymraeg mewn byd digidol 

15.04.2008 

 

Microsoft, Llywodraeth Cynulliad Cymru - partneriaid ar gyfer gwella llythrennedd digidol yn Gymraeg

 

Mae Cwricwlwm Llythrennedd Digidol Microsoft yn rhoi dewis i siaradwyr Cymraeg mewn byd digidol

 

Heddiw, fel rhan o strategaeth partneriaeth tymor hir gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru, lansiodd Microsoft y Cwricwlwm Llythrennedd Digidol yn Gymraeg. Mae’r cwricwlwm, sydd ar gael o heddiw ymlaen, yn cefnogi ymrwymiad y Llywodraeth i Addysg Gydol Oes a Sgiliau yng Nghymru. Bydd yn cynnig offer a chefnogaeth angenrheidiol ac yn cyfrannu tuag at leihau’r prinder sgiliau sy’n bodoli yng Nghymru.

Dywedodd Jane Hutt, y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, “Mae’r cyhoeddiad heddiw yn newyddion gwych i ddysgwyr Cymraeg. Bydd y Cwricwlwm Llythrennedd Digidol yn adnodd gwych, ac darparu’r sgiliau angenrheidiol i ddysgwyr yn y byd electronig hwn. Mae’n newyddion gwych ei fod ar gael yn y Gymraeg. Mae’r ffaith mai’r Gymraeg yw’r iaith leiafrifol gyntaf i Microsoft ddarparu’r gwasanaeth yma ynddi yn  brawf o ba mor bell mae’r iaith wedi dod mewn amser byr.”

Fel y cwrs e-asesiad cyntaf sydd ar gael mewn iaith leiafrifol, mae lansiad y cwricwlwm yn adlewyrchu ymrwymiad Microsoft a Llywodraeth Cynulliad Cymru i sicrhau mynediad at ddeunydd hyfforddi TGCh, yn enwedig mewn mannau lle nad yw’r Saesneg yn brif iaith .

Dywedodd Kristen Weatherby, Rheolwr Rhaglen Academaidd y DU, Partneriaid Dysgu o fewn Microsoft: “Bydd y Cwricwlwm Llythrennedd Digidol yn cynnig offer angenrheidiol i bobl sydd ar hyn o bryd yn dysgu Cymraeg a hefyd i siaradwyr Cymraeg fel y gallant lwyddo yn y byd economaidd sy’n cael ei yrru gan wybodaeth y dyddiau hyn. Rydym yn falch o fod yn cydweithio â Llywodraeth Cynulliad Cymru i gynorthwyo gyda’r dasg o adeiladu gweithlu digidol llythrennol yng Nghymru sydd â sgiliau o safon uchel ac sy’n gystadleuol yn fyd-eang.”

Wrth gwblhau’r Cwricwlwm Llythrennedd Digidol bydd cyfranogwyr yn dysgu’r sgiliau cyfrifiadurol sy’n angenrheidiol iddynt mewn meysydd eraill, yn amrywio o ddefnyddio’r Rhyngrwyd i greu CV neu i anfon neges e-bost.  Mae’r cwricwlwm hefyd yn darparu cyfarwyddyd pwysig ar ddiogelwch pobl ac eiddo os oes pryder ynglŷn â defnyddio cyfrifiadur personol a’r rhyngrwyd am y tro cyntaf.

Dywedodd Meirion Prys Jones, Prif Weithredwr Bwrdd yr Iaith Gymraeg:

“Mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn hapus i fod wedi cyfrannu at ddatblygiadau Cymraeg Microsoft unwaith eto. Nawr fe all pawb sydd eisiau gwella eu sgiliau Technoleg Gwybodaeth wneud hynny yn rhad ac am ddim trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r Cwricwlwm Llythrennedd Digidol yn gydymaith gwych i Becynnau Rhyngwyneb Cymraeg Microsoft Office a Windows, sef prosiect arall y bu Bwrdd yr Iaith a Microsoft yn cydweithio arno yn ddiweddar.”

Mae’r Cwricwlwm Llythrennedd Digidol hefyd yn cynnwys adnoddau asesu, y dewis i ennill achrediad trwy OCR (arholiadau Oxford Cambridge ac RSA) a modiwlau e-ddysgu all-lein Bwrdd yr Iaith Gymraeg ynghyd ag arweinlyfr i gynorthwyo pobl yng Nghymru i ddatblygu dealltwriaeth sylfaenol o gyfrifiaduron.

Mae’r Cwricwlwm Llythrennedd Digidol yn cynnwys pum cwrs:

    • Hanfodion cyfrifiaduro
    • Y Rhyngrwyd a’r We Fyd-Eang
    • Rhaglenni Cynhyrchedd
    • Diogelwch Cyfrifiadurol a Phreifatrwydd
    • Dulliau Byw Digidol
    Mae’r Cwricwlwm Llythrennedd Digidol yn rhan o bartneriaeth tymor hir gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer darparu rhaglen ‘Partneriaid mewn Dysgu’ i Gymru.  Ers dechrau’r bartneriaeth yn 2005, cafodd nifer o brosiectau eu datblygu’n llwyddiannus mewn partneriaeth â NGfL Cymru, Bwrdd yr iaith Gymraeg, Mentro Cymru a Cynnal. 

Yn ystod y bartneriaeth, mae Microsoft wedi buddsoddi £400,000 er mwyn cefnogi datblygiad Partneriaid mewn Dysgu yng Nghymru ac fe gafwyd buddsoddiad o £50,000 gan y cwmni tuag at leoleiddio’r Cwricwlwm Llythrennedd Digidol.

Mae Partneriaeth mewn Dysgu Microsoft yn cefnogi nifer o brosiectau iaith Gymraeg sydd ar hyn o bryd yn cael eu datblygu.  Maent yn cynnwys Pecyn Dysgu SharePoint, Adnoddau Arloesol i Athrawon a gêm Efelychu Busnes ar-lein, a fydd i gyd ar gael yn rhad ac am ddim i ysgolion yng Nghymru.


« Nôl

Hawlfraint © Bwrdd Yr Iaith Gymraeg | Polisi Preifatrwydd | Hygyrchedd