Sgipio'r prif lywioManylion Bysellau HygyrcheddChwilio
 
Yn adran hon:
Help / Cymorth

Rhaid cael Adobe Acrobat Reader er mwyn gweld ffeiliau PDF ar y wefan hon.

Nôl Acrobat Reader
Buddsoddwr Mewn Pobl
Cliciwch yn Microsoft Ofice i wirio'ch Cymraeg 

23.10.2001 

Heddiw, croesawodd Rhodri Williams, Cadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg lansiad gwirydd sillafu a chysylltnodydd Cymraeg newydd sydd wedi’i gynhyrchu ar gyfer meddalwedd diweddaraf cwmni Microsoft, Office XP.

Gyda’r gwirydd wedi’i ddatblygu ar cyd gan y Bwrdd, Canolfan Bedwyr ym Mhrifysgol Cymru Bangor a Microsoft, daeth y tri sefydliad at ei gilydd yn y Cynulliad Cenedlaethol, i ddangos y gwirydd i Andrew Davies AC, e-Weinidog y Cynulliad Cenedlaethol. Dywedodd Rhodri Williams:

“Mae’r ffaith fod Microsoft – un o gwmnïau mwya’r byd - wedi sylweddoli bod angen am wirydd sillafu a chysylltnodydd hefyd yn rhoi hwb i’r Gymraeg, a chyda mwy a mwy o bobl yng Nghymru yn dibynnu ar gyfrifiaduron yn eu gwaith a’u bywyd bob dydd, mae hwn yn ddatblygiad hollbwysig ar gyfer normaleiddio’r iaith ymhellach.

“Mae’r gwirydd sillafu a chysylltnodydd, yn sicrhau fod defnyddwyr PC ym mhob rhan o’r byd yn gallu gwirio’u Cymraeg yn rhad ac am ddim o hyn ymlaen, diolch i gydweithredu agos rhwng y Bwrdd, Canolfan Bedwyr a chwmni Microsoft,” ychwanegodd.

Dywedodd Richard Smith, rheolwr gwerthiant arbenigol cwmni Microsoft:

“’Rydym yn croesawu’r ffaith ein bod wedi cael y cyfle i weithio gyda Bwrdd yr Iaith Gymraeg a Chanolfan Bedwyr ym Mhrifysgol Cymru Bangor, i ddatblygu teclyn i hybu defnydd o’r Gymraeg fel rhan o Office XP.

“Mae’n gwirydd sillafu Cymraeg ar gyfer Office XP, sydd ar gael yn rhad ac am ddim o’n safle ar y we, yn enghraifft arall o ymrwymiad Microsoft i ddarparu cefnogaeth ar gyfer gwahanol ieithoedd yn ein cynnyrch, ac 'rwy’n mawr obeithio y bydd defnyddwyr Office XP yn cael budd o’n gwirydd sillafu diweddaraf,” ychwanegodd.

Cafodd y gwaith o ddatblygu’r gwirydd sillafu ei wneud gan Ganolfan Bedwyr ym Mhrifysgol Cymru Bangor, ar ran Microsoft, ac meddai Dr Geraint Wyn Jones, Cyfarwyddwr y Ganolfan:

“Mae’r gwirydd sillafu a chysylltnodydd yma yn gam pwysig ymlaen i siaradwyr Cymraeg sy’n defnyddio cyfrifiaduron. O hyn ymlaen, bydd modd i unrhyw un sy’n defnyddio Office XP gael mynediad yn rhad ac am ddim i wirydd sillafu a fydd yn gweithio yn awtomatig.

“Mae Canolfan Bedwyr yn falch o fod yn rhan o’r prosiect hwn, sy’n ddatblygiad o’r gwaith sydd eisoes wedi’i wneud gan Brifysgol Cymru Bangor ar becynnau CySilll a CysGair dros y blynyddoedd diwethaf.”
Meddai Andrew Davies AC, yn lansiad y gwirydd sillafu yn y Cynulliad Cenedlaethol:

“Dylid llongyfarch Bwrdd yr Iaith Gymraeg am eu gwaith rhagorol am wireddu amcanion y prosiect pwysig hwn gyda Chanolfan Bedwyr, PC Bangor a Microsoft. Gan fod y meddalwedd yn gweithio gyda’r dechnoleg swyddfa ddiweddaraf, bydd yn chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o annog pobl yng Nghymru i symud ymlaen yn eu defnydd o dechnoleg gwybodaeth.

“Os ydym am lwyddo i greu economi llewyrchus ar gyfer y dyfodol, mae’n hollbwysig fod Cymru yng nghanol y chwyldro technoleg newydd. Mae strategaeth Llywodraeth y Cynulliad, Cymru Ar-lein – Online for a better Wales, a fydd yn cael ei lansio fis nesaf, yn cydnabod y bydd gwell mynediad i dechnoleg band llydan, ynghyd â datblygu a gwella sgiliau TG yn allweddol i gyflawni hyn.”

Mae’n rhaid cael system Microsoft Office XP ar gyfrifiadur cyn y gellir llwytho’r gwirydd sillafu a chysylltnodydd o safle Microsoft ar y we http://office.microsoft.com/uk/


« Nôl

Hawlfraint © Bwrdd Yr Iaith Gymraeg | Polisi Preifatrwydd | Hygyrchedd