Y Bwrdd yn cydweithio â Cartrefi Cymunedol Cymru i ddiogelu’r Gymraeg fel iaith gymunedol
Yn Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru heddiw llofnodwyd protocol rhwng Cartrefi Cymunedol Cymru a Bwrdd yr Iaith Gymraeg i ddatgan eu hymrwymiad i weithio mewn partneriaeth. Byddant yn cydweithredu i ddiogelu a datblygu’r Gymraeg fel iaith gymunedol a hyrwyddo darpariaeth gwasanaethau yn y Gymraeg i denantiaid cymdeithasau tai.
Llofnodwyd y protocol gan Ian Williams, Cadeirydd Cartrefi Cymunedol Cymru a Meri Huws, Cadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg.
Mae Cartrefi Cymunedol a Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn cytuno y gall prinder tai ar rent a diffyg tai fforddiadwy fod yn niweidiol i gymunedau Cymraeg. Fel canlyniad, cred y ddau sefydliad fod gan y sector tai cymdeithasol rôl allweddol i’w chwarae mewn ymdrechion i ddiogelu a datblygu cymunedau Cymraeg drwy hwyluso cyfleoedd i bobl fyw a gweithio yn eu cymunedau lleol.
Dywedodd Nick Bennett, Prif Weithredwr Cartrefi Cymunedol:
“Rydym yn falch iawn i lofnodi’r protocol hwn gyda Bwrdd yr Iaith Gymraeg ar adeg o newid mawr yn y maes tai a hefyd ar gyfer polisi iaith Gymraeg. Mae tirwedd tai cymdeithasol yn newid gyda'r broses o drosglwyddo stoc, a dros y misoedd nesaf fe fyddwn yn datblygu o ddarparu tai i 5% o boblogaeth Cymru i 9%. Tra bod stoc tai yn symud o'r sector cyhoeddus i'r sector nid-er-elw, mae'n bwysig fod hawliau tenantiaid i ddefnyddio gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg ddim yn newid.
Ychwanegodd Ian Williams, Cadeirydd Cartrefi Cymunedol: "Edrychwn ymlaen at weithio mewn partneriaeth gyda’r Bwrdd a hefyd feithrin cyfraniad mwy fyth tuag at yr iaith o’r sector tai nid er elw yng Nghymru”.
Dywedodd Cadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg, Meri Huws:
"Mae tai fforddiadwy, i'w prynu neu i'w rhentu, yn bwnc sy'n cael cryn sylw'r dyddiau hyn, ac mae mynd i'r afael a phrinder tai fforddiadwy yn un o ymrwymiadau canolog Cymru'n Un. Gall darpariaeth tai fforddiadwy ddylanwadu ar natur cymdeithas ac ar gymunedau Cymraeg eu hiaith yn arbennig. Rydym, felly, yn croesawu bwriad a pharodrwydd Cartrefi Cymunedol Cymru i gydweithio â ni er mwyn diogelu a datblygu'r Gymraeg fel iaith gymunedol."
Er mwyn cyflawni nodau’r protocol, cytunodd y ddau sefydliad i:
- rhannu gwybodaeth er mwyn sicrhau fod y Gymraeg yn derbyn ystyriaeth briodol mewn ymgynghoriadau a pholisïau llywodraeth yn y maes tai
- lobϊo ar feysydd o gytundeb ble fyddai neges ar y cyd yn fwy effeithiol
- cydweithio er mwyn rhannu arfer da mewn gwasanaethau Cymraeg ymysg cymdeithasau tai
- annog cydweithio ymysg cymdeithasau tai er mwyn darparu gwasanaethau Cymraeg
- cydweithio wrth gysylltu gyda chymdeithasau tai newydd
- trefnu cyfarfodydd rheolaidd i drafod cyfleoedd newydd i weithio ar y cyd
- bydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg a Cartrefi Cymunedol Cymru yn adolygu gweithrediad y protocol hwn ymhen blwyddyn gyda’r nod o asesu cynnydd a nodi meysydd eraill ar gyfer cydweithio.