Sgipio'r prif lywioManylion Bysellau HygyrcheddChwilio
 
Yn adran hon:

Rhaid cael Adobe Acrobat Reader er mwyn gweld ffeiliau PDF ar y wefan hon.

Nôl Acrobat Reader
Buddsoddwr Mewn Pobl
Bwrdd yn croesawu gwasanaeth Cymraeg newydd Tŷ’r Cwmnïau 

03.07.2008 

Heddiw croesawodd Bwrdd yr Iaith Gymraeg wasanaeth ffeilio ar-lein Cymraeg Tŷ’r Cwmnïau.

Mae’r system WebFiling yn caniatáu i gwmnïau fewnbynnu data am eu cwmni yn ddiogel a chyfrinachol ar y we.

Dywedodd Cadeirydd y Bwrdd, Meri Huws:

“Rwy’n croesawu system ffeilio Gymraeg Tŷ’r Cwmnïau, ac yn hyderus y bydd yn adnodd gwerthfawr i gwmnïau sy’n dymuno delio gyda’u gwybodaeth busnes yn electronig a thrwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r ffaith fod gwasanaethau fel hyn ar gael yn y ddwy iaith yn rhoi hwb i fusnesau i weithredu trwy gyfrwng y Gymraeg.”

Am ragor o wybodaeth am y gwasanaeth Cymraeg newydd, ewch i'r ddolen ar ochr dde'r sgrin.

 

 


« Nôl

Hawlfraint © Bwrdd Yr Iaith Gymraeg | Polisi Preifatrwydd | Hygyrchedd

Datblygwyd gan Draig Technology Cyf. gyda Microsoft Office SharePoint Server 2007.