Heddiw croesawodd Bwrdd yr Iaith Gymraeg Alun Ffred Jones fel Gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros y Gymraeg.
Dywedodd Cadeirydd y Bwrdd, Meri Huws:
"Rydym yn croesawu Alun Ffred Jones i'w rôl newydd fel Gweinidog Treftadaeth, ac yn edrych ymlaen at gydweithio’n agos gydag ef yn ystod y cyfnod cyffrous hwn yn hanes a datblygiad yr iaith. Byddwn yn parhau â'n trafodaethau gyda'r Llywodraeth ar sut i gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg ar lefel gymunedol a hyrwyddo gwasanaethau Cymraeg i ddefnyddwyr, ac yn edrych ymlaen at y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol ar yr iaith."