Sgipio'r prif lywioManylion Bysellau HygyrcheddChwilio
 
Help / Cymorth

Rhaid cael Adobe Acrobat Reader er mwyn gweld ffeiliau PDF ar y wefan hon.

Nôl Acrobat Reader
Buddsoddwr Mewn Pobl
Grantiau'r Bwrdd 

Mae’r broses ymgeisio am gynllun Grantiau i Hyrwyddo'r Gymraeg 2012-13 bellach wedi cau. 

Llun arian (drwy garedigrwydd Swyddfa Archwilio Cymru)Mae gan y Bwrdd un cynllun grant agored sef:

Grantiau i Hyrwyddo'r Gymraeg (Y Prif Gynllun Grantiau).

Nod ein grantiau yw cynyddu'r defnydd o'r Gymraeg.

Gall y Bwrdd ddyrannu grantiau i gefnogi gweithgareddau a fydd yn anelu at wireddu’r nod hwn. Gallwn gynnig hyd at 70% o gostau gwaith cymwys i hyrwyddo a hwyluso defnyddio'r Gymraeg.

Rydym yn cynnig grantiau i fudiadau gwirfoddol, a chwmnïau yn y sector preifat sy'n gweithio ar brosiectau fydd yn arwain at gynnydd yn y defnydd o'r Gymraeg.

Cynigir Grantiau i Hyrwyddo’r Gymraeg yn unol â chyngor y Llywodraeth ar ddyrannu grantiau.  Ein nod yw gweithredu’r polisïau hyn yn deg ar bob achlysur.

 

Sut mae gwneud cais

Gallwch ddarllen meini prawf y cynllun Grantiau i Hyrwyddo’r Gymraeg yma

Rhaid i chi sicrhau bod eich cais yn diwallu'r holl feini prawf a geir o fewn y ddolen uchod a’ch bod wedi ateb pob cwestiwn yn gywir ac yn llawn.

Gallwch wneud cais am grant drwy lenwi’r ffurflen gais fydd ar gael ar y dde yn ystod y cylch grantiau nesaf, a’i hanfon atom gyda’r dogfennau angenrheidiol eraill erbyn y dyddiad cau. 

Nid oes modd i ni ystyried ceisiadau hwyr. 

Hawlfraint © Bwrdd Yr Iaith Gymraeg | Polisi Preifatrwydd | Hygyrchedd