Sgipio'r prif lywioManylion Bysellau HygyrcheddChwilio
 
Help / Cymorth

Rhaid cael Adobe Acrobat Reader er mwyn gweld ffeiliau PDF ar y wefan hon.

Nôl Acrobat Reader
Buddsoddwr Mewn Pobl
Pa wasanaethau gallwch ddisgwyl eu derbyn yn Gymraeg? 

Mae cyrff yn paratoi Cynlluniau Iaith Gymraeg statudol sy’n egluro pa wasanaethau sydd ar gael yn Gymraeg.

Rhai mathau o gyrff y gallwch ddisgwyl derbyn gwasanaethau Cymraeg ganddynt:

  • Cyngor sir
  • Ysbyty lleol
  • Yr heddlu
  • Canolfan waith leol
  • Llysoedd
  • Coleg addysg bellach neu brifysgol

 

Fel arfer, gallwch ddisgwyl derbyn y gwasanaethau canlynol yn Gymraeg:

  • Gwasanaethau ffôn e.e. wrth ffonio i holi am y dreth gyngor, wrth wneud apwyntiad yn yr ysbyty, wrth gysylltu â’r heddlu, wrth ffonio llinellau cymorth sydd wedi eu hysbysebu
  • Gwasanaethau wyneb yn wyneb e.e. wrth fynychu apwyntiadau iechyd, wrth ymweld â llyfrgell neu ganolfan hamdden leol, wrth gael cyfweliad ar gyfer ceisio am basbort, wrth fynychu cyfweliad am swydd
  • Llythyrau e.e. wrth dderbyn llythyr cyffredinol neu lythyr personol sydd wedi ei gyfeirio atoch chi
  • Ffurflenni e.e. wrth dderbyn ffurflen i’w llenwi er mwyn gwneud cais am drwydded deledu neu bleidlais bost
  • Gwefannau a gwasanaethau rhyngweithiol e.e. wrth wneud cais ar-lein am basbort neu drwydded yrru, wrth lenwi ffurflen gofrestru electronig ar gyfer etholiad neu i dalu’r dreth gyngor
  • Cyfarfodydd cyhoeddus e.e. wrth fynychu cyfarfod sydd wedi’i drefnu gan yr heddlu lleol

Fel arfer dylech gael cynnig gwasanaeth Cymraeg heb i chi orfod gofyn amdano, ac fe ddylai’r gwasanaeth Cymraeg a Saesneg fod ar gael i’r un safon. Dylech dderbyn gwasanaeth Cymraeg yn ddidrafferth. Os ydych yn ei chael hi’n anodd derbyn gwasanaeth Cymraeg, yna mae modd cwyno.

 

Darllenwch ‘Sut i wneud cwyn’ i weld y camau dylech gymryd i wneud cwyn.

 

< Nôl i brif tudalen cwyno

Hawlfraint © Bwrdd Yr Iaith Gymraeg | Polisi Preifatrwydd | Hygyrchedd