Mae gan y Bwrdd bŵer statudol i ymchwilio i ddiffyg gwasanaeth Cymraeg yn sgil derbyn cwyn.
Dyma beth fydd y Bwrdd yn ei wneud gyda’ch cwyn:
1. Cofnodi a chydnabod derbyn eich cwyn
Bydd un o swyddogion y Bwrdd yn cael ei benodi i ymdrin â’ch cwyn, ac mi gewch ei enw a manylion cyswllt. Efallai bydd angen i ni gysylltu â chi i drafod y gŵyn a chael rhagor o wybodaeth amdani.
2. Trafod eich cwyn gyda’r corff
Yn aml byddwn yn llwyddo i ddatrys cwyn wrth ei thrafod â’r corff, heb orfod cynnal ymchwiliad statudol. Os nad ydych eisoes wedi rhoi caniatâd i ni rannu eich manylion â’r corff wrth i chi gyflwyno’r gŵyn, byddwn yn cysylltu â chi i ofyn am y caniatâd hwnnw. Does dim rhaid i chi roi caniatâd i ni, ond os ydych yn gwrthod mae’n bosibl na fyddwn yn gallu trin eich cwyn yn llawn.
Gyda chydweithrediad llawn bob parti, byddwn yn ceisio datrys y gŵyn yn gyflym. Ond, pan fo angen, gallwn benderfynu cynnal ymchwil statudol.
Os nad yw eich cwyn yn un y gallwn ei datrys nac ymchwilio iddi, neu os byddwn yn penderfynu peidio â chynnal ymchwiliad, byddwn yn egluro’r rhesymau dros hynny i chi.
3. Cynnal ymchwil statudol
Byddwn yn cysylltu gyda chi i ddweud os byddwn yn cynnal ymchwiliad statudol ac yn egluro be sy’n digwydd nesaf.
Darllenwch ‘Beth sy’n digwydd yn ystod ymchwiliad’ i weld y camau byddwn yn eu dilyn yn ystod ymchwiliad.
Cliciwch yma i wneud cwyn.
< Nôl i brif tudalen cwyno