Sgipio'r prif lywioManylion Bysellau HygyrcheddChwilio
 
Help / Cymorth

Rhaid cael Adobe Acrobat Reader er mwyn gweld ffeiliau PDF ar y wefan hon.

Nôl Acrobat Reader
Buddsoddwr Mewn Pobl
Addysg Bellach ac Uwch 

Pobl yn siarad CymraegOs ydych yn siarad Cymraeg - p’un a ydych wedi derbyn addysg drwy’r Gymraeg yn yr ysgol ai peidio – beth am ystyried dilyn cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg rywbryd?

Addysg Bellach

Mae llawer o Golegau Addysg Bellach yng Nghymru ac mae’r ddarpariaeth cyrsiau galwedigaethol cyfrwng Cymraeg a dwyieithog a gynigir ganddynt yn cynyddu'n raddol wrth i'r galw dyfu.

Mae’r meysydd lle ceir y rhan fwyaf o ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg a dwyieithog yn cynnwys Addysg Blynyddoedd Cynnar, y Cyfryngau, Gweinyddu Busnes, Amaeth a Thwristiaeth a Hamdden.

Addysg Uwch a Dysgu Gydol Oes

Mae'r prif sefydliadau sydd yn cynnig darpariaeth cyfrwng Cymraeg mewn cyrsiau heblaw'r Gymraeg yn cynnwys:

  • Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
  • Prifysgol Aberystwyth
  • Prifysgol Bangor
  • Prifysgol Abertawe
  • Prifysgol Caerdydd

Am ragor o wybodaeth am y cyrsiau sydd ar gael drwy’r Gymraeg ym mhob sefydliad, ac am fanteision astudio drwy’r Gymraeg yn y brifysgol, ewch i wefan Mantais gan ddefnyddio'r ddolen ar ochr dde'r dudalen hon.

Hawlfraint © Bwrdd Yr Iaith Gymraeg | Polisi Preifatrwydd | Hygyrchedd