Sgipio'r prif lywioManylion Bysellau HygyrcheddChwilio
 
Help / Cymorth

Rhaid cael Adobe Acrobat Reader er mwyn gweld ffeiliau PDF ar y wefan hon.

Nôl Acrobat Reader
Buddsoddwr Mewn Pobl
Cymorth gwaith cartref 

Cystadleuaeth Posteri

 

“Mae help ar gael gyda gwaith cartref yn Gymraeg”. Yr her oedd cyfleu’r neges hon ar boster, ac roedd gan ddisgyblion o Gymru benbaladr syniadau creadigol iawn ar sut i roi gwybod i’w ffrindiau a’u rhieni am fodolaeth y Llinell Cefnogi Gwaith Cartref. Enillydd ysgol uwchradd

 

Bethan Thomas, disgybl ym Mlwyddyn 9 yn Ysgol Gyfun Dyffryn Taf, Sir Caerfyrddin gipiodd y wobr gyntaf am ddylunio poster ar gyfer disgyblion uwchradd. Mae poster Bethan yn dangos ôl dychymyg byw ac mae hi wedi defnyddio logo’r Llinell wrth dynnu lluniau’r disgyblion a’r athro.  

  

Enillydd ysgol gynradd Amelia Kelly, disgybl ym Mlwyddyn 6 yn Ysgol Plas Coch, Wrecsam ddaeth yn fuddugol yn y gystadleuaeth ar gyfer disgyblion cynradd. Mae poster Amelia yn denu sylw ac yn lliwgar iawn. Drwy ddefnyddio cymeriadau cartwn cyfeillgar, mae Amelia wedi llwyddo i gyfleu pa mor hawdd yw cael help gyda gwaith cartref yn Gymraeg.

 

Llongyfarchiadau mawr i’r ddwy! Gobeithio y cânt hwyl wrth ddefnyddio eu ipods newydd sbon. Llongyfarchiadau mawr i’r ddwy ysgol hefyd ar ennill y tocynnau llyfr. Mae’r posteri wedi cael eu cynhyrchu a byddant ar gael o stondin y Bwrdd ar faes Eisteddfod yr Urdd Caerdydd ym mis Mai 2009.

 

Daeth nifer o bosteri eraill hefyd yn agos at y brig yn y gystadleuaeth ar gyfer ysgolion uwchradd. Cafodd y posteri yma eu cynllunio gan:

 

 Brandon, Bl 7, Ysgol y Gwendraeth   Abigail, Bl 8,Ysgol y Gwendraeth  
  Brandon                  Abigail  

 

Lowri, Bl 8, Ysgol y Gwendraeth         Sioned, Bl 9, Ysgol Friars

 
  Lowri                                Sioned  

 

Rhydian, Bl 8, Ysgol Dyffryn Taf        Olivia, Bl 9, Ysgol Friars

 
 Rhydian                   Olivia  

 

Sophie, Bl 7, Ysgol Bro Ddyfi              William, Bl 9, Ysgol Dyffryn Taf

 
  Sophie                              William  

 

Lowri, Bl 7, Ysgol Bro Ddyfi                 Carmen,Bl 7,Ysgol Dyffryn Taf

 

 Lowri                               Carmen

 

 
Cafodd y posteri gorau gan ddisgyblion cynradd eu creu gan:  

 

Gwion, Ysgol Ro Wen, Conwy                Ieuan, Ysgol Llanafan

 
  Gwion                                 Ieuan  

 

 

Elen, Ysgol y Ganllwyd                       Natalie, Ysgol Penysarn 

 
 Llun Elen                                Natalie  

 

Angharad, Ysgol Gyn. Llangeitho       Dewi, Ysgol Penysarn

 
  Angharad                               Dewi  

 

Charlotte,Ysgol Gyn. Gym. Abercynon  Catrin, Ysgol Plas Coch

 
 Charlotte                                 Catrin  

 

Llongyfarchiadau mawr i chi i gyd.

 

Ein bwriad wrth gynnal y gystadleuaeth oedd atgoffa disgyblion a rhieni fod y gwasanaeth Llinell Cefnogi Gwaith Cartref ar gael iddynt o Ddydd Sul i Ddydd Gwener o 3.00 o’r gloch hyd 9.00 o’r gloch yr hwyr. Gellir cysylltu drwy ffonio 0871 230 0029, anfon neges destun at 0779 780 5607 neu e-bostio post@gwaithcartref.com neu post@homeworkinwelsh.com.

                                   

                                                         

 

                                       

 

                                                                       

 

                                       

 

                                                              

 

                                           

 

                                                                          

 

                                            

                                                                         

 

 

 

                                                    

                                                                        

 

                                                               

                                                                         

 

                                       

 

 

Hawlfraint © Bwrdd Yr Iaith Gymraeg | Polisi Preifatrwydd | Hygyrchedd