Dydy fy Nghymraeg ddim yn ddigon da. Ble mae'r dosbarthiadau i fi gael gwella?
Mae llawer o bobl am wella eu sgiliau Cymraeg. Mae dosbarthiadau ledled Cymru i bobl sydd am loywi eu Cymraeg neu sy’n deall Cymraeg ond nad ydynt yn ddigon hyderus i’w siarad.
Mae'r holl wybodaeth ar gael i chi ar y Llinell Wybodaeth Cymraeg i Oedolion - 0871 230 0017. Gallech hefyd edrych ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer pobl sydd am ddysgu neu wella eu Cymraeg. Mae'r ddolen ar gael ar ochr dde'r sgrin hon.