Sgipio'r prif lywioManylion Bysellau HygyrcheddChwilio
 
Dwi eisiau astudio yn Gymraeg ar ôl gadael yr ysgol 

Bachgen yn astudio o flaen cyfrifiadurOs ydych yn siarad Cymraeg - p’un a ydych wedi derbyn addysg drwy’r Gymraeg yn yr ysgol ai peidio – beth am ystyried dilyn cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg rywbryd?

Addysg Bellach.

Mae 23 o Golegau Addysg Bellach yng Nghymru ac mae’r ddarpariaeth cyrsiau galwedigaethol cyfrwng Cymraeg a dwyieithog a gynigir ganddynt yn cynyddu'n raddol wrth i'r galw dyfu.

 Mae’r meysydd lle ceir y rhan fwyaf o ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg a dwyieithog yn cynnwys Addysg Blynyddoedd Cynnar, y Cyfryngau, Gweinyddu Busnes, Amaeth a Thwristiaeth a Hamdden.

Addysg Uwch a Dysgu Gydol Oes

Mae 12 o sefydliadau addysg uwch yng Nghymru, yn ogystal â’r Brifysgol Agored a’r Brifysgol Diwydiant. Mae'r prif sefydliadau sydd yn cynnig darpariaeth cyfrwng Cymraeg mewn cyrsiau heblaw'r Gymraeg yn cynnwys: Coleg y Drindod, Caerfyrddin; Prifysgol Cymru, Aberystwyth; Prifysgol Cymru, Bangor.

Am ragor o wybodaeth am y cyrsiau sydd ar gael drwy’r Gymraeg ym mhob sefydliad, ac am fanteision astudio drwy’r Gymraeg yn y brifysgol, ewch i wefan Mantais gan ddefnyddio'r ddolen ar ochr dde'r dudalen hon.

Hawlfraint © Bwrdd Yr Iaith Gymraeg | Polisi Preifatrwydd | Hygyrchedd

Datblygwyd gan Draig Technology Cyf. gyda Microsoft Office SharePoint Server 2007.