
Beth yw’r prosiect?
Mae plant bach yn dysgu iaith yn rhwydd. Maen nhw’n sugno iaith fel mae sbwng yn sugno dŵr.
Dyna neges Bwrdd yr Iaith Gymraeg trwy’r prosiect Cymraeg – Kids Soak it Up!
Mae’r prosiect wedi ei anelu at rieni newydd a darpar rieni, gan hyrwyddo gwerth dwyieithrwydd a manteision dysgu siarad Cymraeg o oedran ifanc.
Beth yw neges Cymraeg Kids Soak it Up?
- Y ffordd orau i ddysgu Cymraeg yw dewis addysg cyfrwng Cymraeg
Mae ysgolion Cymraeg a dwyieithog ar gael ym mhob rhan o Gymru, a chofiwch – does dim rhaid i chi siarad Cymraeg yn rhugl er mwyn i'ch plentyn fanteisio ar addysg cyfrwng Cymraeg.
Rhai Manteision
- Cymdeithasol - Cymysgu a chyfathrebu gyda llawer mwy o bobl a mwynhau dau ddiwylliant.
- Cyrraedd y nod - Mae plant sy’n derbyn addysg cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog yn gwneud cystal os nad yn well yn yr ysgol.
- Dwyieithog a dawnus - Ni fydd sgiliau Saesneg eich plentyn yn dioddef ond yn parhau i ddatblygu.
- Dyfodol disglair - Yng Nghymru, mae gallu siarad Cymraeg a Saesneg yn fantais fawr i bobl ifanc wrth chwilio am swyddi.
Addysg Gymraeg o'r blynyddoedd cynnar – y cychwyn gorau posib i'ch plentyn
I ddod o hyd i’ch ysgol cyfrwng Cymraeg leol, cysylltwch gyda’ch Awdurdod Lleol.
Rhestr o Ysgolion Cyfrwng Cymraeg a Dwyieithog