Trwy ddatblygu gweithlu sgilgar dwyieithog gall cyflogwyr a gweithwyr gyfrannu tuag at gynaladwyedd ieithyddol o’u cwmpas. Mae’r arweiniad hwn yn gosod cyd-destun ac yn mynd i’r afael â materion yn ymwneud â:
- Cyfrifoldebau cyrff cyhoeddus
- Cynllunio gweithlu dwyieithog
- Polisïau ac arferion sefydlog
- Dehongli’r sefyllfa gyfreithiol
Mae’r arweiniad hwn wedi anelu at y sector cyhoeddus yn bennaf ac mae’n berthnasol i bob corff cyhoeddus sy’n gweithredu cynllun iaith Gymraeg statudol. Mae llawer o’r hyn a geir yn yr arweiniad yn arfer da sy’n berthnasol i gyflogwyr drwyddi draw.
Gallwch lwytho i lawr y ddogfen gyngor llawn drwy glicio ar y ddolen isod ac mae copïau caled ar gael trwy gysylltu â Bwrdd yr Iaith Gymraeg. Mae’n ddogfen fanwl a dylid ei darllen yn ei chyfanrwydd:
Dogfen Recriwtio
Dylid ystyried y ddogfen hon law yn llaw â dwy ddogfen arall sy’n ymwneud â’r Gymraeg o fewn byd gwaith: