Mae’r rhan fwyaf o gynlluniau iaith Gymraeg yn cynnwys ymrwymiad i sicrhau bod amodau o ran defnyddio’r Gymraeg wedi eu cynnwys gydag unrhyw gynnig o grant neu fenthyciad. Dylai unrhyw gynllun nad yw’n cynnwys ymrwymiad o’r fath gael ei ddiwygio gan y sefydliad yn unol ag Adran 16 Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 ac mae’r cyngor yn cynnwys geiriad enghreifftiol o gymal fyddai’n addas.
Dangosodd ymchwil a gomisiynwyd gan y Bwrdd yn 2005 mai ychydig yn unig o gyrff cyhoeddus oedd â gweithdrefnau i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r ymrwymiad. Cynhyrchwyd y cyngor hwn felly i sicrhau bod cyrff cyhoeddus yn gweithredu’n unol â’u cynlluniau iaith eu hunain.
Mae’r arweiniad hwn wedi anelu at gyrff cyhoeddus sydd â chynllun iaith Gymraeg statudol a hefyd at sefydliadau nad ydynt yn gyrff cyhoeddus, pan fyddant yn dosbarthu grantiau ar ran corff cyhoeddus.
Gallwch lwytho i lawr y ddogfen gyngor llawn drwy glicio ar y ddolen isod. Mae’n ddogfen fanwl a dylid ei darllen yn ei chyfanrwydd.
Dogfen Grantiau