Sgipio'r prif lywioManylion Bysellau HygyrcheddChwilio
 
Help / Cymorth

Rhaid cael Adobe Acrobat Reader er mwyn gweld ffeiliau PDF ar y wefan hon.

Nôl Acrobat Reader
Buddsoddwr Mewn Pobl
Cyngor i gyrff cyhoeddus 
     

Arwydd ysbyty dwyieithogMae Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 yn gosod egwyddor o gydraddoldeb ieithyddol ac yn nodi camau pendant i'w dilyn gan gyrff cyhoeddus fel awdurdodau lleol, byrddau iechyd ac asiantaethau'r llywodraeth - yn cynnwys sefydliadau y tu allan i Gymru sy'n darparu gwasanaethau i bobl yng Nghymru. Y prif ddull o wneud hynny yw paratoi Cynlluniau Iaith Gymraeg sy’n dweud pa wasanaethau Cymraeg fydd yn cael eu darparu, a sut a phryd y byddant ar gael. 

O dan adran 9 y Ddeddf yr Iaith Gymraeg mae gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg ddyletswydd i gyhoeddi canllawiau ynghylch ffurf a chynnwys Cynlluniau Iaith Gymraeg. Cyhoeddwyd y canllawiau statudol, 'Cynlluniau Iaith Gymreg, Eu Paratoi a'u Cymeradwyo yn unol â Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 (y 'Llyfr Gwyrdd') ym 1996.

Gallwch ddarllen ‘Cynlluniau Iaith Gymraeg, Eu Paratoi a’u Cymeradwyo yn unol â Deddf yr Iaith Gymraeg 1993’ wrth glicio yma.

O dan adran 3 y Ddeddf mae gan y Bwrdd ddyletswydd i gynghori cyrff ar y ffyrdd y gallant weithredu’r egwyddor o gydraddoldeb ieithyddol wrth ddarparu gwasanaethau a defnyddio’r iaith Gymraeg yn eu hymwneud â’r cyhoedd yng Nghymru. 

Mae’r Bwrdd wedi cyhoeddi ‘Cyngor Adran 3’ ar amrywiaeth o bynciau dros y blynyddoedd ac ar ochr dde’r tudalen gallwch ddod o hyd i gyngor pellach ar bynciau megis:

Hawlfraint © Bwrdd Yr Iaith Gymraeg | Polisi Preifatrwydd | Hygyrchedd