Sgipio'r prif lywioManylion Bysellau HygyrcheddChwilio
 
Sut mae defnyddio'r Gymraeg ar fy nghyfrifiadur? 

Mae mwy o gyfleodd ar gael i chi ddefnyddio technoleg yn Gymraeg nag erioed o’r blaen. Mae’r dudalen hon yn cynnwys rhagor o wybodaeth am sawl un ohonyn nhw, ac os ydych am wybod rhagor, darllenwch Technoleg Gwybodaeth a'r Iaith Gymraeg: Dogfen Strategaeth.

Pecynnau Rhyngwyneb Iaith Microsoft Office a Windows

Mae'r Bwrdd wedi gweithio mewn partneriaeth gyda Microsoft ers nifer o flynyddoedd, ac o ganlyniad, mae pecynnau rhyngwyneb Cymraeg ar gael yn rhad ac am ddim i Microsoft Windows XP a Vista ac Office 2003 a 2007. Cliciwch ar logo Microsoft i'w llwytho i'ch cyfrifiadur.

Llwytho pecynnau iaith Cymraeg Microsoft yn rhad ac am ddim

 

 

Switsiwch i Gyfrifiadur Dwyieithog!

Mae’n Canolfan Rheoli Iaith, sydd ar gael yn rhad ac am ddim, yn eich galluogi i newid yn hawdd rhwng y Gymraeg a’r Saesneg ar ryngwyneb sawl rhaglen ar eich cyfrifiadur. Mae’n ddelfrydol ar gyfer cartrefi a gweithleoedd dwyieithog gan ei bod yn galluogi pobl sydd â gwahanol allu ieithyddol i ddefnyddio eu dewis iaith ar yr un peiriant. Mae hefyd yn cynnwys sawl tiwtorial. Mae fersiynau ar gael i Windows XP a Windows Vista, ill dau yn rhad ac am ddim. Dewiswch y fersiwn priodol o dan 'Cyhoeddiadau' ar ochr dde'r sgrin.

 

Offer gwirio gramadeg/sillafu & geiriaduron 

Cliciwch fan hyn am fwy o fanylion am Cysgliad i'r PCMae 'Cysgliad' sy'n cynnwys CySill (rhaglen i wirio gramadeg a sillafu yn Gymraeg) a hefyd 'Cysgeir' sy'n eich galluogi i ddod o hyd i eiriau yn y naill iaith neu'r llall o'ch rhaglen proses geiriau. Mae fersiynau ar gael ar gyfer PC a'r Macintosh.

 

 

 

 

 

 

 

 

Cliciwch fan hyn am fwy o fanylion am Cysgliad i'r Mac Mae'r fersiwn ar gyfer Mac ar gael yn rhad ac am ddim, fel y bydd pob cynnyrch cyfrifiadurol y bydd y Bwrdd yn ei ariannu o hyn allan. Cliciwch ar y logo perthnasol er mwyn cael rhagor o wybodaeth.

  

 

 

 

 

 

 

 

 

SwyddfaAgored/OpenOffice 

Rydym wedi ariannu prosiect i greu fersiwn dwyieithog o SwyddfaAgored/OpenOffice. Cewch wybod hanes llawn y prosiect ar wefan Agored drwy gCliciwch fan hyn am wefan Agoredlicio ei logo.

 

 

 

 

 

 

Meddalwedd Rydd yn Gymraeg 

Mae llawer iawn o wybodaeth am feddalwedd rydd yn Gymraeg gan gynnwys OpenOffice, ar gael ar safle gwe Meddal. Cliciwch ar y logo er mwyn cael gwybod rhagor.

Meddal - gwefan yn llawn meddalwedd rhydd

 

 

 

 

 

Gosod y Safon ar gyfer Technoleg Amlieithog

Ddim yn gwybod sut mae cynhyrchu meddalwedd neu wefan sy'n cynnig dewis iaith clir a phlaen? Mae'n hawdd ac mae digon o gymorth ar gael. Yr unig beth sydd angen ei wneud yw darllen ein Canllawiau a Safonau ar gyfer Meddalwedd Dwyieithog, ac ymhen dim byddwch yn barod i roi tro ar gynhyrchu popeth yn ddwyieithog! Canllawiau a Safonau Meddalwedd Dwyieithog y Bwrdd

 

 

 

 

 

 

 

 

Meddalwedd Cyfieithu

Mae rhai rhaglenni cof cyfieithu ar gael sy’n hwyluso'r broses o gyfieithu ailadroddus, a cheir disgrifiad llawn o nodweddion Cof Cyfieithu yn ein Dogfen Strategaeth (Gweler ddolen Technoleg Gwybodaeth a'r Gymraeg: Ddogfen Strategaeth ar ochr dde'r sgrin)

Rydym hefyd wedi comisiynu Astudiaeth Dichonolrwydd ar Gyfieithu Peirianyddol: mae'r Adroddiad Terfynol ar gael yn ein hadran Gyhoeddiadau

Rhagor o wybodaeth

Ewch i’n hadran gyhoeddiadau ar ochr dde'r sgrin am restr lawn o’n holl ddogfennau, strategaethau a dogfennau cymorth sy’n ymwneud â maes technoleg gwybodaeth a'r Gymraeg.

Hawlfraint © Bwrdd Yr Iaith Gymraeg | Polisi Preifatrwydd | Hygyrchedd

Datblygwyd gan Draig Technology Cyf. gyda Microsoft Office SharePoint Server 2007.