Dewis y cyfieithydd cywir
Gan gofio fod cyfieithu yn grefft sy’n gofyn am gryn arbenigedd mae’n hollbwysig eich bod yn ystyried defnyddio cyfieithydd sy'n aelod o gymdeithas cyfieithu proffesiynol.
Rydym yn argymell y dylech gysylltu â nifer o gyfieithwyr cyn penderfynu ar yr un mwyaf cymwys i gyflawni’r gwaith (ceir copi o restr Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru o dan 'dolenni' ar ochr dde'r sgrîn).
Mae’n bwysig hefyd bod y cyfieithydd yn deall yn union beth sydd yn ofynnol yn ogystal â chyd-destun eich gwaith. Os oes gennych restr o eirfa arbenigol, bydd angen i’r cyfieithydd gael copi ohoni cyn i’r gwaith ddechrau.
Dylech ddod â’r cyfieithydd i mewn i bob cam o’r gwaith cyfieithu, o’r bôn i’r brig, gan gynnwys darllen proflenni, er mwyn sicrhau cywirdeb y gwaith gorffenedig.
Os byddwch yn defnyddio un o’r asiantaethau cyfieithu, dylech egluro eich bod am i’r gwaith gael ei wneud gan gyfieithydd sy’n aelod o gymdeithas cyfieitu proffesiynol.
Cytuno telerau
Er mwyn osgoi camddealltwriaeth dylech bennu un aelod o staff yn unig fel cyswllt rhwng eich cwmni a’r cyfieithydd.
Fel arfer, fesul mil o eiriau y mae cyfieithwyr yn codi tâl ond mae gan y rhan fwyaf o gyfieithwyr dâl lleiafswm. Mae nifer hefyd yn codi TAW.
Dylech gytuno ar bris cyn dechrau ar y gwaith.
Dylech sicrhau bod y cyfieithydd yn fodlon gyda’ch telerau talu a doeth fyddai trafod hyn cyn i’r gwaith gychwyn.
Meddalwedd
Dylech ymgynghori â’r cyfieithydd ynglyn â’r feddalwedd mae’n ei defnyddio er mwyn sicrhau ei bod yn cyfateb â’ch meddalwedd chi.
Sicrhau ansawdd
Mae’n bwysig bod y cyfieithydd yn gwarantu ansawdd a chysondeb pan fydd mwy nag un cyfieithydd yn gweithio ar ddogfen.
I’r sawl sy’n prynu gwasanaeth cyfieithu, dylai’r ffaith bod gan gyfieithydd neu asiantaeth cyfieithu yswiriant indemniad sicrhau hawliau’r cwsmer a dynodi agwedd broffesiynol y cyfieithydd wrth ymdrin â chleientiaid.
Cyflwyno’r gwaith
Trafodwch sut yr hoffech i’r gwaith gael ei gyflwyno, e.e. e-bost, copi caled/disg, trwy’r post, ffacs, neu gyfuniad o’r rhain. Cofiwch na fydd trosglwyddiad ffacs yn eglur bob amser ac na ddylech ddibynnu ar gopïau ffacs yn unig o unrhyw ddogfen wedi ei chyfieithu.
Darllen proflenni
Mae darllen proflenni yn rhan annatod o’r broses gyfieithu a rhaid sicrhau digon o amser i wneud hyn yn drylwyr hyd yn oed pan nad yw’r ddogfen yn hir. Yn aml gall camgymeriadau bychain fod yn gostus yn enwedig ar arwyddion.
Fel rheol mae’n fwy cyfleus i’r cyfieithydd sy’n ymgymryd â’r gwaith ddarllen y proflenni ond fe all godi tâl ychwanegol am wneud hynny. Os felly, cofiwch egluro wrth y cyfieithydd mai ef neu hi fydd yn gyfrifol am gywirdeb y gwaith.
Gall camgymeriadau ddigwydd yn sgîl anfon cyfieithiadau dros y peiriant ffacs. Mae’n bwysig sicrhau fod cyfieithydd yn darllen copi caled o’r proflenni cyn i’r gwaith gael ei argraffu.
Cyfieithu ar y Pryd
Mae Cyfieithu ar y Pryd yn grefft wahanol iawn i gyfieithu ar bapur. Bydd angen Cyfieithu ar y Pryd mewn nifer fawr o gyfarfodydd a chynadleddau yng Nghymru. Cyfieithu o’r Gymraeg i’r Saesneg fydd y cyfieithydd gan amlaf.
Bydd cyfieithydd fel arfer yn gwrando trwy glustffonau ar drafodaeth ac yn trosi ar y pryd er mwyn i’r gwrandawyr nad ydynt yn deall Cymraeg glywed y cyfieithiad ar yr offer priodol.
Dylech anfon copïau o ddogfennau’r cyfarfod ymlaen llaw at y cyfieithydd os oes modd yn ogystal â braslun o’r cyfarfod neu gynhadledd.
Dylech gofio hefyd fod y math hwn o gyfieithu yn waith sy'n blino; felly os bydd y cyfarfod yn parhau am fwy na hanner awr bydd angen dau gyfieithydd i weithio bob yn ail.
Mae gan rai cyfieithwyr ar y pryd eu hoffer personol neu gallant argymell cwmni neu sefydliad sydd yn fodlon benthyg offer, ar delerau masnachol neu’n rhad ac am ddim.
Cyfieithiadau byrion am ddim
Cofiwch am y Llinell Gyswllt â'r Gymraeg (gweler ochr dde'r dudalen hon), sy'n darparu cyfieithiadau byrion yn rhad ac am ddim, mae modd cysylltu â hi drwy ffonio 0845 607 6070 , neu drwy anfon e-bost at post@byig-wlb.org.uk
Cyrff Cyfieithu Proffesiynol
Mae cyfieithu yn grefft arbenigol ac felly dylech sicrhau, wrth ddewis eich cyfieithydd, eich bod yn dewis yn ddoeth. Gall cyflwyniad dwyieithog lle mae’r Gymraeg o safon uchel wella delwedd eich cwmni neu eich sefydliad. Felly mae’n werth cyflogi cyfieithydd cymwys.
Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru
Corff proffesiynol i gyfieithwyr Cymraeg/Saesneg amser-llawn neu ran-amser yw’r gymdeithas hon. Dyma’r unig gorff yng Nghymru i gyfieithwyr sy’n gweithio yn y Gymraeg. Enillodd y Gymdeithas fesur o gydnabyddiaeth gan yr Institute of Translation and Interpreting am ei harbenigrwydd yn y maes. Mae’r Gymdeithas yn cynnal arholiadau cyson i gyfieithwyr sy’n dymuno ymaelodi. Am ragor o wybodaeth ymwelwch â gwefan y Gymdeithas (gweler ochr dde'r dudalen).
Institute of Translation and Interpreting
Sefydlwyd y corff hwn yn 1986 er mwyn hybu a diogelu’r safonau uchaf yn y proffesiwn. Mae’n cynnig cyngor ac arweiniad i’r rheiny sy’n ymuno â’r proffesiwn yn ogystal ag i’r rheiny sy’n darparu gwaith cyfieithu ac i gyflogwyr a chwsmeriaid posibl. Am ragor o wybodaeth ymwelwch â'u gwefan.
The Translators Association
Uned arbenigol o fewn aelodaeth The Society of Authors yw’r gymdeithas hon. Mae gan aelodau’r hawl i gael cyngor cyffredinol a chyfreithiol ar bob mater yn ymwneud â marchnata’u gwaith. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Gordon Fielden, Secretary, The Translators Association. 84, Drayton Gardens, Llundain, SW10 9SB neu 02073 736642 .
The Chartered Institute of Linguists
Sefydlwyd y gymdeithas hon yn 1910 a dyma’r corff proffesiynol mwyaf ym Mhrydain i ieithyddion. Fel corff proffesiynol, mae’n ymwneud â chreu a chynnal safonau uchel mewn gwaith ieithyddol. Mae’n trefnu ei arholiadau ei hun, ac mae aelodaeth yn cyfateb i gymhwyster proffesiynol uwch. Rhaid i’r aelodau feddu ar lefel uchel o fedrusrwydd ieithyddol ynghyd ag arbenigedd proffesiynol ac ymrwymiad. Am ragor o wybodaeth ymwelwch â'u gwefan.
Cyfrolau eraill i’ch cynorthwyo
Mae gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg nifer o gyfrolau eraill a all fod o gymorth i chi. Gweler ochr dde'r dudalen.
Nid yw Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw ddiffyg ar ran cyfieithwyr a gomisiynir gan ddefnyddio rhestr Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru. Cymerwyd pob gofal wrth lunio’r rhestr ond ni allwn dderbyn cyfrifoldeb am wallau nac am hepgor gwybodaeth am unigolion.