Bwriad y canllaw yw roi cyngor ynglŷn ag ystyried y Gymraeg wrth weithio mewn partneriaeth, a hynny er mwyn sicrhau bod:
- Gan y Gymraeg lais priodol yng ngwaith partneriaethau
- Gwasanaethau i’r cyhoedd ar gael yn Gymraeg
Argymhellwn fod y canllaw yn cael ei ystyried a’i ddefnyddio pan fo’n briodol gan y canlynol:
- Partneriaethau unigol
- Sefydliadau sy’n gweithio mewn partneriaeth
- Swyddogion neu unigolion sy’n mynychu partneriaethau
Mae’r arweiniad hwn yn berthnasol i bob corff cyhoeddus sy’n gweithredu cynllun iaith Gymraeg neu unrhyw gorff arall sy’n gweithio mewn partneriaeth â sefydliad o’r fath.
Gallwch lwytho i lawr y ddogfen gyngor llawn drwy glicio ar y ddolen isod.
Dogfen Partneriaethau