Sgipio'r prif lywioManylion Bysellau HygyrcheddChwilio
 
Help / Cymorth

Rhaid cael Adobe Acrobat Reader er mwyn gweld ffeiliau PDF ar y wefan hon.

Nôl Acrobat Reader
Buddsoddwr Mewn Pobl
Mae gen ti ddewis 

Gwasanaethau CymraegMae gen ti ddewis... clicia yma am restr o rifau ffôn sy'n darparu gwasanaeth Cymraeg

Mae sefydliadau ar draws Cymru yn cynnig gwasanaethau Cymraeg. Yn eu plith mae gwasanaethau sydd ar gael dros y ffôn, ar-lein, ar bapur a wyneb yn wyneb. Mae ymgyrch ‘mae gen ti ddewis…’ yn hyrwyddo dewis iaith pan fydd ar gael. Dros y misoedd nesaf bydd yr ymgyrch yn gweithio gyda sefydliadau partner i hyrwyddo’u gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg.

Cynlluniau Iaith Gymraeg

Clicia yma er mwyn ysgrifennu at y BwrddMae mwyafrif cyrff cyhoeddus Cymru yn gweithredu Cynllun Iaith Gymraeg. Mae’r cynlluniau hyn yn nodi pa wasanaethau fydd ar gael yn Gymraeg a sut a phryd y byddan nhw’n cael eu darparu. Dogfennau cyfreithiol yw’r cynlluniau hyn ac maen nhw’n cael eu drafftio drwy ymgynghori â Bwrdd yr Iaith Gymraeg a dim ond ar ôl ymgynghoriad cyhoeddus byddan nhw’n cael eu cymeradwyo.

 

Gest ti ddewis?

Mae’r sefydliadau sy’n cymryd rhan yn yr ymgyrch ‘mae gen ti ddewis…’ yn cael eu dethol yn ofalus. Dylai’r gwasanaethau hyn fod ar gael yn hawdd a thrwy gyfrwng y Gymraeg a’r Mae modd defnyddio dy gyfrifiadur yn Gymraeg. Clicia yma er mwyn llwytho rhwyngwynebau Cymraeg i lawr yn rhad ac am ddimSaesneg fel ei gilydd.

Gest ti wasanaeth rhagorol drwy gyfrwng y Gymraeg yn rhywle?

Gest ti dy siomi neu wyt ti wedi teimlo’n rhwystredig am na fu modd i ti dderbyn rhywbeth drwy gyfrwng y Gymraeg? Hoffem glywed am dy brofiadau.

Os wyt o’r farn nad yw sefydliad yn cyflawni’i Gynllun Iaith Gymraeg yn llawn, mae modd cwyno.  Gelli di hefyd anfon e-bost neu ysgrifennu atom am ragor o wybodaeth ar sut mae cwyno neu i sôn am dy brofiadau yn uniongyrchol. Clicia ar 'cysylltwch' ar ben uchaf y sgrin hon a/neu ymunwch â'n grŵp ar Facebook (gweler ochr dde y sgrin hon am y ddolen).

 

Beth gelli di ei wneud

Mae gen ti ddewis siarad Cymraeg wrth weld bathodyn Iaith Gwaith. Clicia am ragor o wybodaeth.Wrth ffonio, ysgrifennu at sefydliad neu’n ymweld â sefydliad, edrycha am y dewis iaith a dewisa’r Gymraeg pan fydd ar gael.

Rho wybod i dy deulu a’th ffrindiau fod ganddyn nhw ddewis hefyd. Ymuna â’r drafodaeth a rho wahoddiad i’th ffrindiau i ymuno â’n grŵp ar Facebook.

Rho wybod i’r darparwyr beth yw dy farn am ansawdd gwasanaethau Cymraeg a pha mor hawdd neu anodd yw cael gafael ynddynt a rho wybod i ni – gwael neu dda.

 

 

 

 

 

Cofia, mae gen ti ddewis...

 

 

Cliciwch fan hyn i weld hysbyseb Mae gen ti ddewis!

 

 

Hawlfraint © Bwrdd Yr Iaith Gymraeg | Polisi Preifatrwydd | Hygyrchedd